Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir y brifysgol yn Wurzburg yng ngogledd Bafaria, awr a hanner o Nuremburg i'r de-ddwyrain a Frankfurt i'r gogledd-orllewin. Mae'r gaeafau'n oer gyda thymereddau o dan y rhewbwynt ac mae'r hafau'n gynnes ar y cyfan. Mae'n ddinas sy'n gyfeillgar iawn i fyfyrwyr ac mae nifer mawr ohonynt yn byw yno. Mae cyrsiau Almaeneg ar gael ar gyfer myfyrwyr cyfnewid.  Gall myfyrwyr fyw mewn neuaddau preswyl ond ni ellir gwarantu lle yn un o'r neuaddau hyn ac efallai y bydd angen i fyfyrwyr chwilio am lety preifat.