Trosolwg o'r Cwrs
Pwyntiau Mynediad: Medi, Ionawr, Ebrill, Gorffennaf
Mae ein rhaglen PhD Canser a Genomeg ar gael yn llawn amser neu'n rhan-amser, dros 3 neu 6 blynedd.
Bydd canser yn effeithio ar hanner poblogaeth y DU yn y blynyddoedd sydd i ddod, a bydd llawer o bobl yn marw o ganlyniad i'r clefyd gan ei fod yn tueddu i ddod i'r amlwg yn hwyr, ac oherwydd diffyg opsiynau therapiwtig. Felly, mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Feddygaeth yn mynd ati i astudio'r clefyd hwn er mwyn deall yn well sut mae'n gweithio, datblygu marcwyr diagnostig gwell a dod o hyd i lwybrau therapiwtig newydd er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys:
- Dysgu seiliedig ar ymarfer
- Tîm goruchwylio â goruchwylwyr enwebedig
- Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
- Seminarau a gweithdai'r rhaglen
- Mynediad i'r prif gyfleuster ymchwil feddygol bwrpasol yng Nghymru
- Cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cael budd o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch. Ein weledigaeth yw datblygu gwyddor feddygol drwy ymchwil ac arloesedd rhyngddisgyblaethol. Rydym yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil feddygol ac yn enghraifft unigryw o gydweithio llwyddiannus rhwng y GIG, y byd academaidd a diwydiant yn y sector gwyddorau bywyd ac iechyd.
Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.