Trosolwg o'r Cwrs
Mae ymchwil i dechnolegau iechyd yn gweddnewid tirwedd gofal iechyd, gan gynnig cyfleoedd digynsail ar gyfer diagnosis, triniaeth ac atal - o ddeallusrwydd artiffisial i ddyfeisiau gwisgadwy sy'n galluogi monitro lles amser go iawn - mae'r arloesedd hwn yn trawsnewid gofal cleifion. Ar ben hynny, mae technolegau iechyd telefeddygaeth yn arwain newid trawsnewidiol mewn darparu gofal iechyd, gan gynnig datrysiadau hygyrch ac effeithlon ar gyfer gofal cleifion.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys:
- Dysgu seiliedig ar ymarfer
- Tîm goruchwylio â goruchwylwyr enwebedig
- Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
- Seminarau a gweithdai'r rhaglen
- Mynediad i'r prif gyfleuster ymchwil feddygol bwrpasol yng Nghymru
- Cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cael budd o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch. Ein weledigaeth yw datblygu gwyddor feddygol drwy ymchwil ac arloesedd rhyngddisgyblaethol. Rydym yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil feddygol ac yn enghraifft unigryw o gydweithio llwyddiannus rhwng y GIG, y byd academaidd a diwydiant yn y sector gwyddorau bywyd ac iechyd.
Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.