Dyddiad cau:

Gwybodaeth Allweddol

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi'r Ysgoloriaeth Noddfa. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd cyfartal mewn addysg uwch i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU, a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn a’u huchelgeisiau.

Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi un myfyriwr ar gwrs Meistr Ôl-raddedig a Addysgir bob blwyddyn academaidd. Mae'r Ysgoloriaeth yn cynnig un dyfarniad ar gyfer rhaglen meistr ôl-raddedig a addysgir gymwys sy'n dechrau, ac mae'n cynnwys:

  • Bwrsariaeth ffïoedd dysgu lawn i dalu ffïoedd dysgu cwrs meistr ôl-raddedig a addysgir.
  • Mae grant ar gael i helpu tuag at gostau byw ac astudio a'r uchafswm yw £12,000 ar gyfer hyd y cwrs, a delir fel ariantal rheolaidd.

Yn ogystal â'r cymorth ariannol a restrir uchod, bydd gan ddeiliad yr ysgoloriaeth noddfa fynediad at wasanaethau BywydCampws a gwasanaethau cymorth y Brifysgol drwy gydol ei astudiaethau, gan gynnwys cymorth llyfrgell ac enw cyswllt yn nhîm staff y Brifysgol

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r holl feini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys i gyflwyno cais am Ysgoloriaeth Noddfa Prifysgol Abertawe.

Mae un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • Rydych chi'n Unigolyn sy'n Ceisio Lloches yn y DU
  • Rhoddwyd caniatâd i chi aros yn y DU ar sail disgresiwn neu Ddiogelwch Dyngarol
  • Rydych chi'n bartner/ddibynnydd wedi'ch cynnwys ar gais ceisiwr lloches yn y DU

Sylwer: Rhaid bod partneriaid priod/sifil yn bartneriaid priod/sifil ar y dyddiad y gwneir cais am loches. Rhaid bod oed plant/llys-blant yn iau na 18 oed ar y dyddiad y gwneir cais am loches.

AC

  • Rydych chi yn y Deyrnas Unedig
  • Mae gennych gynnig amodol neu ddiamod gan Brifysgol Abertawe am fynediad ym i gwrs gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir.
  • Rydych chi'n bodloni’r gofynion IELTS sylfaenol sy'n gysylltiedig â'ch cynnig am le ar y cwrs, a holl amodau eraill eich cynnig, ac rydych chi'n cytuno i ymgymryd â phrawf SWELTS i bennu’ch statws IELTS fel rhan o'r broses cyflwyno cais, os bydd angen.
  • Rydych chi wedi cael eich asesu gan Dîm Derbyn y Brifysgol fel rhywun sy'n ceisio lloches ac felly ystyrir eich bod yn fyfyriwr rhyngwladol.
  • Rydych chi wedi cael eich asesu gan Dîm Cydymffurfiaeth a MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws fel ceisiwr lloches â’r hawl i astudio yn y DU
  • Rydych chi'n mynychu ysgol, coleg neu grŵp cymunedol neu wirfoddol ar hyn o bryd sy’n gallu rhoi geirda i gefnogi eich cais
  • Mae gennych gyfrif banc yn y DU

Rhaid i ymgeiswyr fodloni POB UN o'r meini prawf cymhwysedd caeth hyn a bod mewn sefyllfa i brofi eu hamgylchiadau er mwyn cyflwyno cais. Ni chaiff ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r holl feini prawf eu hystyried yn gymwys am yr ysgoloriaeth. Anogir ymgeiswyr nad ydynt yn sicr o'u cymhwysedd i gysylltu â SanctuaryScholarship@abertawe.ac.uk am gyngor pellach.

Mae rhaglen Meistr Ôl-raddedig a Addysgir gymwys yn radd amser llawn neu ran-amser sy'n arwain at gymhwyster MA/MSc/LLM. Mae deiliaid cynigion ar y rhaglenni gradd canlynol yn gymwys i gyflwyno cais am yr Ysgoloriaeth Noddfa:

  • Rhaglenni meistr a addysgir amser llawn.
  • Rhaglenni meistr a addysgir rhan-amser (yn achos rhaglenni rhan-amser, cynigir cymorth ariannol ar sail pro rata).

*Sylwer nad yw rhaglenni gradd Meistr a noddir gan y GIG yn gymwys, gan gynnwys Nyrsio, Gwyddor Gofal Iechyd a Meddygaeth. Nid yw cyrsiau sy'n cynnwys teithio dramor a/neu leoliadau gwaith yn gymwys. Darllenwch yr Amodau a thelerau Ysgoloriaeth Noddfa am ragor o wybodaeth am raglenni cymwys.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffïoedd dysgu.

Mae grant ar gael i helpu tuag at gostau byw ac astudio a'r uchafswm yw £12,000 ar gyfer hyd y cwrs, a delir fel ariantal rheolaidd.

Caiff dyddiadau taliadau perthnasol eu cadarnhau ar ôl rhoi gwybod i'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Rhaid nad yw ymgeiswyr yn gymwys i dderbyn cyllid prif ffrwd yn y DU, e.e. Cyllid Myfyrwyr.

Sut i wneud cais

Yn gyntaf, bydd angen i chi feddu ar gynnig amodol neu ddiamod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar gwrs meistr perthnasol. Mae Future Learn yn darparu cwrs ar-lein am ddim i helpu ceiswyr lloches drwy'r broses cyflwyno cais i brifysgolion y DU.

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais cyn y dyddiad cau. Dylech ddarllen Ysgoloriaeth Noddfa Nodiadau Canllaw i Ymgeiswyr cyn cwblhau eich cais.

I gyflwyno cais, cwblhewch a chyflwyno'r canlynol i SanctuaryScholarship@abertawe.ac.uk:

  • Ffurflen Gais Ysgoloriaeth Noddfa
  • Datganiad personol
  • Copi o'ch llythyr cynnig gan Brifysgol Abertawe
  • Llythyr geirda gan rywun â pharch yn y gymuned sy'n ymwybodol o'ch amgylchiadau ac sy'n gallu cadarnhau eich addasrwydd i astudio gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir (er enghraifft, athro neu hen athro, aelod o grŵp cymunedol neu sefydliad sydd wedi bod yn eich cefnogi, etc).
  • Tystiolaeth o'ch statws mewnfudo presennol/disgwyliedig*

*Mae cymhwysedd i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth yn amodol ar gael cadarnhad llwyddiannus o statws mewnfudo'r myfyriwr ar adeg y cais, a bydd yn rhaid i dderbynnydd llwyddiannus yr ysgoloriaeth ail-gadarnhau ei statws mewnfudo cyn cofrestru ar ei radd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir.

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod a yw eu cais yn bodloni'r meini prawf cymhwyso o fewn 10 niwrnod i'r dyddiad cau terfynol.

Ar ôl eu cymeradwyo, caiff ceisiadau eu hanfon i'w hasesu gan Banel Adolygu’r Ysgoloriaeth Noddfa. Efallai y bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddod i gyfweliad.

Sylwer mai proses gystadleuol yw hon, ac o ganlyniad, ni fydd yr holl geisiadau'n llwyddiannus. Mae gan bob myfyriwr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir ynghylch ei gymhwysedd i gyflwyno cais am yr Ysgoloriaeth Noddfa – e-bostiwch SanctuaryScholarship@abertawe.ac.uk am ragor o fanylion. Rhaid cyflwyno apeliadau o fewn 3 diwrnod gwaith i’r cais gael ei wrthod, a rhaid cynnwys tystiolaeth ategol berthnasol.

Sylwer mai penderfyniadau terfynol yw'r rhai a wneir gan Dimoedd Cydymffurfiaeth a MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws y Brifysgol ynghylch statws mewnfudo myfyrwyr a'u hawl i astudio yn y DU, oni bai y gallwch chi ddarparu tystiolaeth newydd mewn perthynas â'ch hawl gyfreithiol bresennol i aros ac astudio yn y DU.

Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol Abertawe ar sail y ffaith y gallant newid. Yn ogystal mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael.