Dyddiad cau: 15 Tachwedd 2024

Gwybodaeth Allweddol

Cyllidir gan: Mae hon yn Ysgoloriaeth Ymchwil cyfrwng Cymraeg i gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2024/25 wedi ei chyllido yn llawn neu’n rhannol drwy Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Mae Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe hefyd wedi sicrhau cyllid cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) canolog y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gydnabod y Gymraeg rydym wedi neilltuo hyd at 4 ysgoloriaeth wedi eu hariannu 50% a all gyfateb i’r hyn mae'r Coleg Cymraeg yn ei ariannu a darparu ysgoloriaethau wedi'u hariannu’n llawn, yn cynnwys ffioedd, cyflog a Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG). 

Pwnc: Gofal Iechyd (Optometreg)  

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Ionawr 2025

Goruchwylwyr:

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd (Biofeddygaeth)

Dull astudioAmser llawn  

Disgrifiad o'r prosiect:  

Mae cyfathrebu effeithiol yn rhan annatod o ofal iechyd safonol ond nid yw’r egwyddor o bwysigrwydd defnydd iaith gyntaf y claf fel rhan o’r gofal a ddarperir wedi’i sefydlu’n gadarn (Irvine et al.2006). Mae dewis iaith yn bwysicach fyth i grwpiau penodol o gleifion bregus fel plant neu’r henoed, sydd heb ddysgu, neu sydd wedi colli, sgiliau dwyieithog, yn ogystal ȃ phobl sy’n dioddef salwch iechyd meddwl (Martin et al.2018). Gall diffygion yn sgil rhwystrau ieithyddol arwain at gam gyfathrebu rhwng cleifion a chlinigwyr sydd wedyn yn cael ôl-effeithiau ar ddiogelwch a chanlyniadau cleifion gan gynnwys camgymeriadau meddygol, ail-anfon i’r ysbyty, niferoedd llai o gleifion allanol, diffyg defnydd gwasanaethau ataliol, diffyg cydymffurfio gyda meddyginiaeth, a diffyg rheolaeth effeithiol o gyflyrau cronig (Bowen 2015; van Rose et al.2015).   

Mae llenyddiaeth yn awgrymu bod cysylltiad rhwng diffyg mewn darparu gofal trwy famiaith claf a difrifoldeb cyflyrau llygaid penodol ar adeg diagnosis. Yn fwy penodol, yn yr UDA, mae gan gleifion glawcoma nad sy’n siarad Saesneg ganlyniadau gwaeth yn eu prawf maes gweledol cychwynnol (Visual Field (VF)test) o gymharu â siaradwyr Saesneg (Altangerel et al.2009; Halawa et al.2022). Ond ni welodd yr astudiaethau hyn gysylltiad rhwng difrifoldeb yng nghynnydd y clefyd ac iaith. Fodd bynnag, mae diffyg cysondeb ieithyddol rhwng claf a’i feddyg yn cyfrannu at ddiffyg cydymffurfio â chynllun triniaeth (Moissac& Bowen, 2019). At hynny, mae tebygolrwydd cynyddol o ddatblygu glawcoma mewn cleifion â’r cyflwr cronig Diabetes (Zhao et al.2015), lle dangoswyd bod diffyg hyfedredd Saesneg yn cyfrannu at reolaeth waeth o diabetes ymhlith y boblogaeth Latino yn yr UDA (Fernandez et al.2010). Felly, mae’n bosib y gallai diffyg cysondeb iaith gyfrannu at fwy o ddifrifoldeb mewn cyflyrau llygaid cronig.  

Disgrifiad o'r prosiect (RS707)

Anogir ymgeiswyr i gyflwyno ymholiadau anffurfiol am ysgoloriaethau i ddarpar oruchwylwyr a hynny cyn y dyddiad cau; cyflwynwch yr ymholiadau hyn ir aelod(au) staff perthnasol yn y gyfadran. 

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill, neu disgwylir iddynt ennill, gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a/neu ragoriaeth ar lefel meistr. 

  • Lle mae gan ymgeiswyr raddau meistr lluosog, rhaid cael rhagoriaeth yn y radd sydd fwyaf perthnasol i'r astudiaeth PhD arfaethedig.
  • Os ydych ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel meistr gyda dyddiad dyfarnu disgwyliedig sy'n hwyrach na 01/01/2025, dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf.
  • Dylech allu dangos llwyddiant gydag isafswm gradd cyfartalog o 70% o leiaf ar gyfer eich modiwlau gradd meistr rhan-un (yr agwedd a addysgir ar eich cwrs meistr yn hytrach na thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar ymchwil) a chyflwyno'ch traethawd hir erbyn ddim hwyrach na 31/12/24.

Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth (h.y. myfyriwr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu'r DU) ond nid oes gennych radd yn y DU, gallwch wirio ein gofynion mynediad cymaradwy (gweler cymwysterau penodol i wledydd).

Rhaid i ymgeiswyr allu dechrau eu cwrs astudio ym mis Ionawr 2025. Fel rhaglen sy'n seiliedig ar garfan, ni chaniateir gohirio i gyfnod cofrestru arall o fewn y flwyddyn academaidd neu flwyddyn academaidd arall.  

Gofynion Iaith Gymraeg:  

Mae gofynion mynediad safonol y rhaglen yn berthnasol, gyda’r gofyniad ychwanegol o allu ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg (a/neu feddu ar radd C neu uwch TGAU mewn llenyddiaeth Gymraeg). 

Oherwydd cyfyngiadau cyllido, ar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd gan reoliadau UKCISA. 

Os oes cwestiynau gennych ynghylch eich cymhwysedd academaidd neu'ch cymhwysedd o ran ffioedd dysgu, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk, gan roi manylion am yr ysgoloriaeth(au) y mae gennych ddiddordeb ynddi/ynddynt ac URL y dudalen we berthnasol. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu ffïoedd dysgu'r DU yn llawn gan gynnwys cyflog blynyddol ar raddfa UKRI (sef £19,237 ar gyfer 2024/25 ar hyn o bryd).

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Ionawr

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS707 - Eye Health'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein) 

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni'r gofyniad Iaith Gymraeg
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Os oes gennych chi ymholiadau;cysylltwch â Dr Alwena Morgan (a.h.morgan@abertawe.ac.uk/ 01792 602051.

 *Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.