Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: WGSSS yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Maes pwnc/pynciau: Ysgoloriaeth WGSSS yr ESRC: Llwybr Rheoli a Busnes 

Dyddiad(au) dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr: 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried trafod â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig ar gael ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru. 

Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Daniele Doneddu, yn gallu eich cynghori.  

Arweinydd y Llwybr: Dr Daniele Doneddu 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Rheoli Busnes 

Modd astudio: Gellir astudio'n rhan-amser neu'n amser llawn. 

Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil rhan-amser yr ESRC fod mewn swydd amser llawn. 

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae Prifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth Ysgol Ôl-raddedig Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (WGSSS) yr ESRC, yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD mewn Busnes a Rheoli, gyda'r posibilrwydd o gael dyfarniad o ysgoloriaeth ymchwil sydd wedi'i ariannu'n llawn gan WGSSS yr ESRC, gan ddechrau ym mis Hydref 2024. 

Mae'r llwybr Busnes a Rheoli'n canolbwyntio drwy lens y gwyddorau cymdeithasol ar heriau presennol i fusnesau a'r dirwedd ddiwydiannol. Mae cyfleoedd sylweddol ar gyfer gwaith amlddisgyblaethol drwy ei arbenigedd disgyblaethol mewn cyfrifeg, cyllid, bancio, marchnata, strategaeth, logisteg a rheoli gweithrediadau, rheoli sefydliadau, arloesi a thwristiaeth; i gyd wedi’u hategu gan gryfder ymchwil a phrofiad aelodau cyfadrannau Prifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor. Mae'r gweithio ar y cyd hwn yn galluogi myfyrwyr i gael gwell mynediad at ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw wrth hefyd gynnig amrywiaeth o gysylltiadau a phrofiadau iddynt, gan eu galluogi i rwydweithio o fewn carfan fwy a gweld eu hymchwil mewn cyd-destun disgyblaethol hynod o eang. Mae'r llwybr hefyd yn datblygu ac yn ymchwilio i wybodaeth am broblemau ehangach e.e. cydraddoldeb ac anghydraddoldeb, lles, newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd.  

Mae gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe gryfderau sylweddol ym meysydd arloesi digidol, adnoddau dynol a pholisi datblygu menter. Mae Sefydliadau Ymchwil Ryngddisgyblaethol (e.e. Arloesi ac Entrepreneuriaeth, Polisi Cyhoeddus ac Ymarfer, Heriau Geo-wleidyddol a Diwylliant a Chymunedau), Rhwydweithiau (Gweithredu ar yr Hinsawdd, Deallusrwydd Artiffisial a'r Economi Ddigidol a'r Gymdeithas) a Chanolfannau Ymchwil e.e. i-labordy (Labordy Arloesi), Canolfannau Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC mewn Gwella Rhyngweithiadau a Chydweithrediadau Dynol â Systemau wedi'u llywio gan Ddata a Deallusrwydd; Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn meithrin ymchwil ac effaith a arweinir gan heriau. Yn yr Ysgol, mae hefyd gyfleoedd sylweddol i gymryd rhan mewn mentrau sy'n canolbwyntio ar ymarferwyr megis Cymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC) a'r prif felin drafod iechyd, Gomisiwn Bevan. Mae allbynnau megis y rhain yn cynrychioli cysylltiadau strwythuredig pellach ac yn cynnig y potensial ar gyfer hyfforddiant sgiliau a rennir. Mae'r Ysgol yn cydweithredu â Chyfadrannau eraill yn y Brifysgol er mwyn i ymchwil ryngddisgyblaethol ac aml-ddisgyblaethol gref ffynnu. Bydd y llwybr yn adeiladu ar y cydweithrediad hynod lwyddiannus rhwng Prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru gynt (DTP-Wales). Mae'r llwybr hwn hefyd yn cydweithredu â llwybrau clwstwr eraill y WGSSS megis Economeg a'r Economi Ddigidol a'r Gymdeithas i gynnig goruchwylio/hyfforddiant. 

Ym mhob cam, mae myfyrwyr yn cyfrannu'n weithredol at amrywiaeth eang o grwpiau darllen a thrafod, sesiynau bwrdd crwn, cyfresi seminarau a gweithdai dadansoddi data. Cyflwynir cyrsiau hyfforddiant hyblyg a luniwyd at y diben ar-lein ac mewn person gan gynnwys, ar hyn o bryd, seminarau ymchwil, gweithdai dulliau, modiwlau safonol, cyrsiau dwys ynghyd â seminarau ymchwil rheolaidd mewn person ac ar-lein. Mae sesiynau hyfforddiant sgiliau ehangach hefyd ar gael. Fe'ch anogir yn gryf i fynd i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a chyflwyno ynddynt a byddwch yn cael eich cefnogi i wneud hyn. 

Hyd astudio: 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.  

Gall yr astudiaeth bara rhwng tair blynedd a hanner a phedair blynedd a hanner amser llawn (neu gyfnod cyfatebol os yw'n rhan-amser) gan ddibynnu ar eich profiad ymchwil blaenorol.  

Bydd Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn YGGCC, yn asesu anghenion hyfforddiant ymgeiswyr llwyddiannus ac yn gweithio gyda nhw i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig iddynt i ddiwallu eu hanghenion ymchwil. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw. 

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o 3 mis i gyd (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.  

Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.

Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.    

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser. 

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.

Cyllid

Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd). 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd). 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn.  

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch:

    Rheoli Busnes/ Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
    Rheoli Busnes/ Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref


    Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS697 - WGSSS 5'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein) 

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   

  • Ffurflen Gais yr WGSSS 
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen). 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd. 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)   
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)  
  • Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.