Dyddiad cau: 11 Tachwedd 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwyr cyllid: Yr EPSRC a Chyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe

Meysydd pwnc: Cemeg Polymerau a Chemeg Carbohydradau a Glycosidau, Bioddeunyddiau, Sylweddau Gwrthficrobaidd

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Ionawr 2025
  • 1 Ebrill 2025
  • 1 Gorffennaf 2025 

Goruchwylwyr:  

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Cemeg

Dull astudio: Amser llawn

Disgrifiad o'r prosiect: 

Ceir heterogenedd ffenotypig sylweddol yn y boblogaeth facterol glonaidd ar gyfer ymlynu wrth arwynebau gwahanol. Gall bacteria sydd heb lectinau adlynol hyd yn oed rwymo i gelloedd ac achosi heintiau. Amcan yr ysgoloriaeth ymchwil hon yw canolbwyntio ar ddylunio glycosystemau heterogenaidd sydd â phriodoleddau tameidiol er mwyn targedu poblogaethau bacterol amrywiol ar yr un pryd a chyda mynegai dewis uchel.

Bydd yr ymgeisydd yn defnyddio ymagwedd ryngddisgyblaethol gyffrous, gan ddechrau ym meysydd cemeg polymerau a chemeg carbohydradau a glycosidau i ddylunio glycosystemau tameidiol. Bydd y systemau hyn wedi'u nodweddu'n drylwyr yn labordy modern ein Prifysgol gan ddefnyddio SEM, AFM, a TEM. Caiff effeithiolrwydd y deunyddiau hyn eu hasesu yn erbyn rhywogaethau bacterol gwahanol yn Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe. Darperir rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr gan dîm goruchwylio rhyngddisgyblaethol sydd ag arbenigedd mewn cemeg (Dr Bhatia), cynnyrch naturiol (Dr Loveridge) a microbioleg (yr Athro Wilkinson).

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig ail ddosbarth uwch neu radd Meistr gydag isafswm radd gyffredinol o 'Deilyngdod' (neu gymhwyster cyfatebol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) (gwelercymwysterau penodol i wledydd). Sylwer y gall fod angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hyfedredd Iaith Saesneg. 

Oherwydd cyfyngiadau cyllido, ar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennych gwestiynau am eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd ar sail yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan gynnwys y ddolen we i'r ysgoloriaeth(au) sydd o ddiddordeb i chi. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys cyflog blynyddol ar £19,237.

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais