Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

 Maes pwnc/pynciau: Ysgoloriaeth ymchwil YGGCC yr ESRC ar y llwybr Gwyddor Data, Iechyd a Lles 

Dyddiad(au) dechrau'r prosiect:

  • 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr: 

Dyfarniad ‘agored’ yw'r ysgoloriaeth ymchwil hon. Rhaid i ymgeiswyr gysylltu â darpar oruchwyliwr cyn cyflwyno cais, er mwyn cadarnhau bod gallu goruchwylio priodol ar gael yn y Brifysgol ac er mwyn trafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru’r ESRC.  

Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Amy Mizen, yn gallu eich cynghori.  

Arweinydd y Llwybr: Dr Arron Lacey 

Rhaglen astudio sy'n cydwedduPhD mewn Gwyddor Data Iechyd a’r Boblogaeth  

Dull astudio: Bydd yn bosib astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser. 

Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid rhan-amser ysgoloriaeth ymchwil yr ESRC fod mewn swydd amser llawn. 

Disgrifiad o'r prosiect:  

Mae'r llwybr yn cyfuno dulliau arsylwi, disgrifiadol, ac ar sail treialon â setiau data poblogaeth ar raddfa fawr i ddarparu tystiolaeth am heriau iechyd mwyaf dybryd ein cymdeithas. Mae ymchwil yn llywio prosesau llunio polisïau ar sail tystiolaeth i gynorthwyo pobl i ddewis ffyrdd iach o fyw a/neu i fyw'n well gyda salwch ac anabledd. Yn fwy penodol, mae'n archwilio'r amgylchedd adeiledig a chymdeithasol ac effaith y rhain ar ganlyniadau iechyd a/neu gymdeithasol niferus. Er enghraifft, gall prosiect ymwneud â'r amgylchedd tai neu deithio i'r ysgol ac ymchwilio i'r effaith ar anafiadau, iechyd meddwl a deilliannau addysgol; neu ddemograffeg newidiol o ran heneiddio a maint teuluoedd mewn perthynas ag epidemioleg cyflyrau iechyd cronig â'r nod o fynd i'r afael â phroblem ddybryd 'y bwlch gofal'. Gall prosiectau ddefnyddio amrywiaeth o fethodolegau, o arsylwi i fodelu cyfrifiadol ar lefel poblogaeth. Mae prosiectau o'r fath a'r dulliau cysylltiedig yn bosib drwy gysylltu data gweinyddol ac iechyd, gan gynyddu'r galw am ymchwilwyr doethurol â chymwysterau addas sy'n gallu defnyddio cymysgedd o ddulliau i ddatrys problemau gwyddor gymdeithasol cymhleth. 

Os bydd angen i chi ddefnyddio data o Fanc Data SAIL yn eich ymchwil, rhaid i chi gofrestru eich prosiect arfaethedig gyda thîm cwmpasu SAIL yma: https://saildatabank.com/data/apply-to-work-with-the-data/ 

Rhaid gorffen yr ymarfer cwmpasu cyn i chi gyflwyno eich cais. 

Hyd astudio: 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.  

Gall yr astudiaeth bara rhwng tair blynedd a hanner a phedair blynedd a hanner amser llawn (neu gyfnod cyfatebol os yw'n rhan-amser) gan ddibynnu ar eich profiad ymchwil blaenorol.  

Bydd Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn YGGCC, yn asesu anghenion hyfforddiant ymgeiswyr llwyddiannus ac yn gweithio gyda nhw i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig iddynt i ddiwallu eu hanghenion ymchwil. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw. 

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o 3 mis i gyd (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil. 

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.  

Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.  

Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol. 

Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.    

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser. 

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.

Cyllid

Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd). 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd). 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn.  

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch:

    Gwyddor Data Iechyd a’r Boblogaeth / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
    Gwyddor Data Iechyd a’r Boblogaeth / Ph.D/ Rhan-amser/ 6 Blynedd / Hydref

    Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS694 - WGSSS 2'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein) 

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV (dwy dudalen ar y mwyaf) 
  • Cynnig ymchwil (uchafswm o 1000 o eiriau) (ynghyd â chyfeiriadau llyfryddiaethol) 
  • Manylion am gymwysterau academaidd/proffesiynol ac unrhyw brofiad ymchwil perthnasol 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd  
  • Llythyr eglurhaol, hyd at ddwy dudalen.Rhaid i'r llythyr eglurhaol gynnwys yr is-benawdau a nodir yn atodiad 1 Canllawiau WGSSS 2024 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol 
  • Tystiolaeth o fodloni'r gofyniad Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol) 
  • Copi o fisa preswylydd y DU (os yw’n berthnasol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.