Fferylliaeth: Ysgoloriaeth Ymchwil PhD wedi'i hariannu'n llawn mewn Darpariaeth iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg pan y trafod meddyginiaethau (RS731)
Dyddiad cau: 3 Ionawr 2025
Gwybodaeth Allweddol
Mae hon yn Ysgoloriaeth Ymchwil cyfrwng Cymraeg i gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2025/26 wedi ei chyllido yn llawn neu’n rhannol drwy Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe hefyd wedi sicrhau cyllid cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) canolog y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gydnabod y Gymraeg rydym wedi neilltuo hyd at 4 ysgoloriaeth wedi eu hariannu 50% a all gyfateb i’r hyn mae'r Coleg Cymraeg yn ei ariannu a darparu ysgoloriaethau wedi'u hariannu’n llawn, yn cynnwys ffioedd, cyflog a Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG).
Pwnc Fferylliaeth
Dyddiad dechrau’r prosiect:
Hydref 2025
Ionawr 2025
Goruchwylwyr:
Yr Athro Delyth James
Dr Alwena Morgan
Rhaglen astudio wedi’i halinio:
Fferylliaeth, PhD
Dull Astudio:
Gellir astudio yn llawn amser neu ran amser
Disgrifiad o’r prosiect
Cefndir
Bu nifer o ddatblygiadau arwyddocaol o ran darpariaeth iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg dros y ddeng mlynedd diwethaf, wedi'u sbarduno yn rhannol yn sgil adroddiad ‘Ymholiad Fy Iaith Fy Iechyd’ (2014), a'r camau dilynol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ac eraill i ymateb i hynny. Roedd hyn ar ffurf ‘Fframwaith Strategol Mwy na Geiriau’ a roddodd amlygrwydd i'r cynnig rhagweithiol a gweithredol yn y maes yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, cytunodd y Senedd ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) yn 2018 ar gyfer y Byrddau Iechyd, a Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) yn 2022 ar gyfer cyrff rheoleiddio'r gweithlu iechyd.
O safbwynt y claf a darpariaeth gwasanaethau, mae sylwedd y safonau hyn yn canolbwyntio ar y Byrddau Iechyd a'r gwasanaethau arbenigol aciwt ac wedi'u cynllunio, a'r gwasanaethau rheiny mewn ysbytai. Maent yn rhoi dyletswydd (Safon 110), ar bob Bwrdd Iechyd i ddatblygu cynllun pum-mlynedd yn canolbwyntio ar gynyddu'r gallu i gynnig ymgynghoriadau clinigol yn Gymraeg.
Ystyrir y byddai'n amserol gwneud ymchwil academaidd pellach yn y maes, allai gyfrannu at a chyfoethogi’r ymchwil mae'r Llywodraeth ac eraill yn ei wneud. Rhagwelir mai cleifion a'r ddarpariaeth ar lawr gwlad – ei chryfderau, ei gwendidau a'r cyfleoedd i wella a chysoni – fydd prif ffocws yr ymchwil yma. Fe fydd allbynnau yr ymchwil yn cyfrannu at ddatblygu deddfwriaeth ac argaeledd gwasanaethau iechyd yn y Gymraeg yn bellach. Fe fydd argymhellion yn cael eu gwneud sydd yn seiliedig ar y gwaith o ddatblygu a phrofi ymyriadau ac ar y potensial ar gyfer lledaenu'r ymyriadau rheiny ar lefel genedlaethol yng Nghymru – mewn fferylliaeth a thu hwnt o bosib.
Nod yr ymchwil yw i archwilio anghenion cleifion ac ymgynghorwyr iechyd a gofal o rhan trafod meddyginiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Amcanion yr ymchwil fydd:
- Pwyso a mesur lle ydym wedi cyrraedd yn y maes, ar lefel uchel o ran polisi a deddfwriaeth ac o ran gwaith academaidd i lywio dealltwriaeth ynghyd ac anghenion ieithyddol â phrofiad ymarferol y claf.
- Cyfrannu yn ymarferol drwy ddatblygu ymyriadau posib a'u treialu (adnoddau ayb) yn maes fferylliaeth yn benodol
- Asesu effeithiolrwydd yr ymyriadau rheiny ar brofiad cleifion ac ymgynghorwyr gofal iechyd – o ran boddhad cyffredinol ac effaith ar ansawdd a deilliannau'r gofal.
Trosolwg o’r gwaith arfaethedig
Bydd yr ymchwil yn cael ei rannu’n dair brif rhan:
Rhan 1 – Awdit polisi, deddfwriaeth ac adolygiad llenyddiaeth
Rhagwelir y byddai rhan gyntaf o’r ymchwil yn cynnwys awdit o bolisi a deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r maes. Hefyd, bydd angen crynhoi ymchwil academaidd am yr hyn sy'n wybyddus am brofiadau cleifion yn derbyn gofal iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn cyd-destun Cymreig, ac yn ehangach astudiaethau am rôl iaith mewn gofal yn fwy cyffredinol ac ieithoedd lleiafrifol eraill yn rhyngwladol. Felly, bydd adolygiad llenyddiaeth systematig yn cael ei gynnal ar effeithiolrwydd ymyriadau i gryfhau darpariaeth iechyd a gofal mewn ieithoedd lleiafrifol fyd-eang.
Rhan 2 - Datblygu ymyriadau ac adnoddau
Yn seiliedig ar ganlyniadau Rhan 1, rhagwelir bydd posib angen datblygu adnoddau yn benodol yn trafod meddyginiaethau a chyflyrau yn y Gymraeg – bydd angen ystyried fod y Gymraeg yn gywir ac ar lefel byddai y mwyafrif or cyhoedd yn ei ddeall – Cymraeg fwy llafar ei natur. Adnoddau posib yn cynnwys – pamffledi, fideo, gwefan – neu adnoddau mewn sawl cyfrwng er mwyn asesu beth fyddai’n well gan glaf ei dderbyn. Bydd posib deall yn well beth fyddai cleifion ac ymgynghorwyr iechyd yn gwerthfawrogi ei gael fel darpariaeth yn y Gymraeg – tra'n canolbwyntio ar ddisgwyliadau y claf. Hefyd, byddai’n ddefnyddiol i weld beth fyddai cleifion ei eisiau ac os oes gwahaniaeth yn beth fyddai oedolyn ifanc ei eisiau o gymharu a chlaf hŷn – yn enwedig wrth i’r oes fynd yn fwy ddibynnol ar dechnoleg. Fe fydd ymyriadau yn cael eu creu gan ddefnyddio methodoleg cyd-gynhyrchu, gan gynnwys cleifion, fferyllwyr ac ymgynghorwyr iechyd eraill yn y broses o gyd-ddylunio adnoddau yn dilyn dull ailadroddus.
Rhan 3 - Mesur effaith yr ymyriadau a gwneud argymhellion am ledaeniad cenedlaethol yr ymyriadau.
Fe fydd Rhan 3 o’r ymchwil yn ymwneud â mesur effaith yr ymyriadau ac i weld os oes posib datblygu fframwaith ar gyfer darpariaeth arbenigol yn y Gymraeg. Fe fydd dulliau ymchwil ansoddol a meintiol yn cael eu defnyddio ar gyfer y rhan yma. Er enghraifft, drwy gynnal cyfweliadau lled-strwythuredig ac atebion i holiaduron gallwn gasglu adborth o’r cleifion ac ymgynghorwyr iechyd ynglŷn ac effaith defnyddio yr ymyriadau a’r adnoddau a ddarparwyd yn Rhan 2.
Cymhwyster
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill, neu disgwylir iddynt ennill, gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a/neu ragoriaeth ar lefel meistr.
- Lle mae gan ymgeiswyr raddau meistr lluosog, rhaid cael rhagoriaeth yn y radd sydd fwyaf perthnasol i'r astudiaeth PhD arfaethedig.
- Os ydych ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel meistr gyda dyddiad dyfarnu disgwyliedig sy'n hwyrach na 01/10/2025, dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf.
- Dylech allu dangos llwyddiant gydag isafswm gradd cyfartalog o 70% o leiaf ar gyfer eich modiwlau gradd meistr rhan-un (yr agwedd a addysgir ar eich cwrs meistr yn hytrach na thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar ymchwil) a chyflwyno'ch traethawd hir erbyn ddim hwyrach na 30/09/2025.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffioedd dysgu ac ariantal blynyddol ar gyfradd UKRI (£19,237 ar hyn o bryd ar gyfer 2024/25).
Bydd treuliau ymchwil ychwanegol rhwng £500 a £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd.
Ysgoloriaeth ar agor i fyfyrwyr sy'n gymwys am ffioedd y DU YN UNIG.
Sut i wneud cais
I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:
- Dewis Cwrs - dewiswch
*Ar gyfer mis Ionawr 2026 dewiswch:
(Amser llawn) Fferylliaeth / PhD / Amser llawn / 3 blynedd / Hydref
(Rhan-amser) Fferylliaeth / PhD / Rhan-amser / 6 blynedd / Hydref
NEU
*Ar gyfer mis Ionawr 2026 dewiswch:
(Amser llawn) Fferylliaeth / PhD / Amser Llawn / 3 blynedd / Ionawr
(Rhan-amser) Fferylliaeth / PhD / Rhan-amser / 6 blynedd / Ionawr
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
- Blwyddyn dechrau – dewiswch 2025 neu 2026
- Cyllid (tudalen 8 ar y broses ymgeisio) -
- 'Ydych chi’n ariannu eich astudiaethau eich hun?’ – dewiswch Nac ydw
- ‘Enw’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n darparu cyllid i astudio’ – nodwch ‘RS731 - yn trafod meddyginiaethau’
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.
Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein)
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:
- CV
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Llythyr eglurhaol, gan gynnwys ‘Datganiad Personol Atodol’ i esbonio pam mae'r rôl yn gweddu'n arbennig i'ch sgiliau a'ch profiad, a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n dangos cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi cyfeiriad e-bost eu swydd er mwyn dilysu'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Gymraeg
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â Dr Alwenna Morgan: a.h.morgan@abertawe.ac.uk
*Rhannu Data o Geisiadau â Phartneriaid Allanol – sylwer, fel rhan o broses ddethol y cais am ysgoloriaeth, gallwn rannu data o geisiadau â phartneriaid y tu allan i’r brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.