Dyddiad cau: 3 Ionawr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Mae hon yn Ysgoloriaeth Ymchwil cyfrwng Cymraeg i gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2025/26 wedi ei chyllido yn llawn neu’n rhannol drwy Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe hefyd wedi sicrhau cyllid cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) canolog y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gydnabod y Gymraeg rydym wedi neilltuo hyd at 4 ysgoloriaeth wedi eu hariannu 50% a all gyfateb i’r hyn mae'r Coleg Cymraeg yn ei ariannu a darparu ysgoloriaethau wedi'u hariannu’n llawn, yn cynnwys ffioedd, cyflog a Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG).

Pwnc

Hanes; Cyfryngau; Astudiaethau Amgylcheddol

Dyddiad dechrau’r prosiect 

  • Hydref (2025)
  • Ionawr (2026)

Goruchwylwyr 

Dr Gethin Matthews
Dr Angharad Closs Stephens
Dr Elain Price

Rhaglen astudio wedi’i halinio:

PhD mewn Hanes

Dull Astudio:

Gellir astudio yn llawn amser neu ran amser 

Disgrifiad o’r prosiect:

‘Daw eto Dywydd Teg?’ Y trafodaethau ynghylch newid hinsawdd yng Nghymru, o’r 1950au hyd 2016.

Cyhoeddodd Y Gwyddonydd adroddiad ym mis Rhagfyr 1972 o dan y teitl ‘Dylanwad ar y Tywydd’. Ynddo mae’r awdur yn pendroni dros beth allai fod yr effaith ar hinsawdd y byd o’r llygredd yr oedd y ddynoliaeth yn arllwys i mewn i’r atmosffer. Ar y naill law, mae’r erthygl yn trafod yr ‘effaith tŷ-gwydr’ a fyddai’n peri i dymheredd y byd gynyddu. Ar y llaw arall, mae’n ystyried y posibilrwydd y bydd llwch ychwanegol yn yr awyr yn ‘adlewyrchu pelydriad yr haul yn ei ôl i’r gwagle’, ac felly yn arwain at gwymp yn nhymheredd y byd. Ni allai’r gwyddonwyr fod yn sicr beth fyddai’r canlyniad: ‘’does neb a ŵyr sut dywydd i’w ddisgwyl wedyn.’

Erbyn hyn, fe ŵyr pawb beth yw’r ateb. Mae effaith tŷ gwydr, a oedd yn ymadrodd digon anghyfarwydd i’r cyhoedd yn 1972, bellach yn rhywbeth sydd yn dylanwadu ar ein hinsawdd ni yng Nghymru. Nid oes yr un gwyddonydd gwerth ei halen yn anghytuno bod y byd mewn sefyllfa beryglus. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gyflwyno nifer o bolisïau sydd â’r bwriad o fynd i’r afael â’r problemau.

Mae teitl y prosiect, ‘Daw eto Dywydd Teg?’, yn dod o erthygl yn Y Gwyddonydd yn Rhagfyr 1981 sydd yn poeni am faint byddai tymheredd y byd wedi cynyddu erbyn 2025. Ar y diwedd ceir rhybudd: ‘Mae amser, unwaith eto, yn gweithio yn ein herbyn.’ Gyda 2025 ar y gorwel, mae’n amser priodol nawr i edrych ar sut gyrhaeddom ni ble rydym ni heddiw, gan weld a oes gwersi i’w dysgu ar gyfer ein cymdeithas, y cyfryngau a’n gwleidyddion ni wrth edrych yn ôl ar y trafodaethau a fu yng Nghymru ynghylch newid hinsawdd.

Ymhlith y cwestiynau allweddol i’w gofyn mae: sut y cyrhaeddom ni’r fath sefyllfa, ac i ba raddau roedd y sawl mewn grym, a’r cyhoedd yn gyffredinol, wedi cael rhybuddion am y peryglon gan wyddonwyr? Pen y daith ar gyfer yr astudiaeth hon fydd pasio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn 2016. Ar sawl olwg mae hon yn ddeddfwriaeth flaengar. Beth oedd y broses a arweiniodd at gynnig y mesurau hyn? Faint o drafodaethau oedd yn y cyfryngau Cymreig, ac a oedd y cyhoedd yn deall, neu â diddordeb yn y gyfraith newydd?

Nod yr Ymchwil:

  • Casglu a dadansoddi tystiolaeth o nifer o ffynonellau (yn y Gymraeg a Saesneg) am y trafodaethau a gafwyd yng Nghymru am newid hinsawdd o’r 1950au hyd 2016
  • Olrhain sut y datblygodd y dadleuon dros y degawdau
  • Cymharu llif y drafodaeth am newid hinsawdd yng Nghymru gyda’r hyn a oedd yn digwydd yn y wasg Seisnig, a’r drafodaeth wyddonol yn y Gymraeg gyda’r drafodaeth ryngwladol
  • Ystyried y cyd-destun ehangach, a sut oedd yr ofnau am newid hinsawdd yn gorfod cystadlu am ofod gyda phroblemau eraill (e.e. ofnau am ryfel niwclear adeg y Rhyfel Oer; ofnau am lesteirio twf yr economi)
  • Asesu effeithiau materion penodol Cymreig ar y drafodaeth (e.e. llifogydd Tywyn (Sir Ddinbych) yn 1990; dadleuon ynghylch dyfodol yr atomfeydd yn Nhrawsfynydd a’r Wylfa)
  • Astudio’r datblygiadau wedi i reolaeth o rai agweddau amgylcheddol gael eu datganoli i Gymru, a gweld sut / os oedd y trafodaethau yng Nghymru yn wahanol eu naws i’r hyn a welwyd yn Lloegr
  • Olrhain y trafodaethau a arweiniodd ar Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Ffynonellau Tystiolaeth:

  • Papurau newydd Cymreig (ac, i’w cymharu, y wasg Seisnig)
  • Cylchgronau Cymreig (ac, i’w cymharu, rhai Prydeinig a rhyngwladol). Mae peth gwaith eisoes wedi dechrau i adeiladu bas-data o erthyglau yng nghylchgronau Cymraeg y 1980au
  • Rhaglenni perthnasol ar Radio Cymru a Radio Wales
  • Rhaglenni perthnasol ar S4C, BBC Cymru a HTV (ac, i’w cymharu, rhai o’r sianeli Prydeinig)
  • Cyfweliadau gyda rhai o’r arbenigwyr (cyfryngol ac amgylcheddol) a gyfranodd at y trafodaethau

Methodoleg:

  • Casglu’r deunydd a dangos y patrymau o ran pryd y gwnaeth y cyfryngau ddangos diddordeb mewn newid hinsawdd, gan olrhain y newidiadau mewn meddwl gwyddonol a sbardunodd y diddordeb
  • Dadansoddi unrhyw newidiadau yn y patrymau a’r agweddau rhwng y cyfryngau Cymraeg a’r rhai Saesneg yng Nghymru, a rhwng y cyfryngau yng Nghymru â’r hyn a welwyd yn Lloegr a thu hwnt
  • Mapio’r defnydd o gysyniadau ac ymadroddion perthnasol yn y wasg (e.e. y defnydd o ‘effaith tŷ-gwydr’); olrhain cyfraniadau gan wyddonwyr a sylwebwyr penodol
  • Astudio sut newidiodd agweddau wedi i Refferendwm 1997 sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Arwyddocâd ac effaith bosibl yr ymchwil:

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill, neu disgwylir iddynt ennill, gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a/neu ragoriaeth ar lefel meistr.

  • Lle mae gan ymgeiswyr raddau meistr lluosog, rhaid cael rhagoriaeth yn y radd sydd fwyaf perthnasol i'r astudiaeth PhD arfaethedig.
  • Os ydych ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel meistr gyda dyddiad dyfarnu disgwyliedig sy'n hwyrach na 01/10/2025, dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf.
  • Dylech allu dangos llwyddiant gydag isafswm gradd cyfartalog o 70% o leiaf ar gyfer eich modiwlau gradd meistr rhan-un (yr agwedd a addysgir ar eich cwrs meistr yn hytrach na thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar ymchwil) a chyflwyno'ch traethawd hir erbyn ddim hwyrach na 30/09/2025.

DS: Os oes gennych radd y tu allan i'r DU, gweler cymariaethau gradd Prifysgol Abertawe i weld a ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Rhaid i ymgeiswyr allu dechrau eu cwrs astudio ym mis Hydref 2025 neu fis Ionawr 2026. Fel rhaglen sy'n seiliedig ar garfan, ni chaniateir gohirio i gyfnod cofrestru arall o fewn y flwyddyn academaidd neu flwyddyn academaidd arall.

Gofynion Iaith Gymraeg:

Mae gofynion mynediad safonol y rhaglen yn berthnasol, gyda’r gofyniad ychwanegol o allu ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg (a/neu feddu ar radd C neu uwch TGAU mewn llenyddiaeth Gymraeg).

Cyllid

Ysgoloriaeth ar agor i fyfyrwyr sy'n gymwys am ffioedd y DU YN UNIG. 

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffioedd dysgu ac ariantal blynyddol ar gyfradd UKRI (£19,237 ar hyn o bryd ar gyfer 2024/25).

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol rhwng £500 a £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol: 

  1. Dewis Cwrs – dewiswch:

*Ar gyfer mis Hydref 2025 dewiswch:
(Amser llawn) Hanes / PhD / Amser llawn / 3 blynedd / Hydref
(Rhan-amser) Hanes / PhD / Rhan-amser / 6 blynedd / Hydref

NEU 

*Ar gyfer mis Ionawr 2026 dewiswch:
(Amser llawn) Hanes / PhD / Amser Llawn / 3 blynedd / Ionawr
(Rhan-amser) Hanes / PhD / Rhan-amser / 6 blynedd / Ionawr

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais. 

  1. Blwyddyn dechrau  – dewiswch  2025 neu 2026
  2. Cyllid (tudalen 8 ar y broses ymgeisio) -
  • ‘Ydych chi’n ariannu eich astudiaethau eich hun?’ – dewiswch Nac ydw
  • ‘Enw’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n darparu cyllid i astudio’ – nodwch  ‘RS732 – Newid Hinsawdd’

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth. 

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein)   

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:  

  • CV
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol, gan gynnwys ‘Datganiad Personol Atodol’ i esbonio pam mae'r rôl yn gweddu'n arbennig i'ch sgiliau a'ch profiad, a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect.
  • Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n dangos cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi cyfeiriad e-bost eu swydd er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Gymraeg

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â Dr Gethin Matthews g.h.matthews@abertawe.ac.uk

*Rhannu Data o Geisiadau â Phartneriaid Allanol – sylwer, fel rhan o broses ddethol y cais am ysgoloriaeth, gallwn rannu data o geisiadau â phartneriaid y tu allan i’r brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.