Dyddiad cau: 15 Awst 2024

Gwybodaeth Allweddol

Cyllidir gan: Mae hon yn Ysgoloriaeth Ymchwil cyfrwng Cymraeg i gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2024/25 wedi ei chyllido yn llawn neu’n rhannol drwy Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Pwnc: Daearyddiaeth

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr:

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Daearyddiaeth Ffisegol

Dull astudioAmser llawn  

Disgrifiad o'r prosiect:  

Mae colofnau iâ’r Antarctig yn allweddol i ddeall sut mae’r hinsawdd wedi newid yn y gorffennol. Dros y degawdau diwethaf trawsnewidiwyd ein dealltwriaeth o batrwm hinsawdd y gorffennol wrth ddadansoddi’r archifau hir a di-dor â ddriliwyd o grombil y llen iâ. Er eu statws eiconig fel archifau hinsawdd gwerthfawr, mae problemau dyddio yn rhwystro ein gallu i fanteisio’n llawn ar y dystiolaeth o fewn yr iâ a’i gymharu gyda chofnodion hinsoddol eraill. Un dull bwerus sydd â photensial i oresgyn y problemau dyddio yw teffrogronoleg, sy’n seiliedig ar ddefnyddio lludw folcanig, gydag ôl-bys cemegol benodol, o echdoriadau hynafol er mwyn pennu terfynau amser yn y colofnau iâ. Wedi echdoriad llosgfynydd, mae gronynnau lludw yn cael eu gwasgaru’n eang yn yr atmosffer, eu dyddodi yn syth, eu claddu gan eira a’u ymgorffori o fewn llen iâ i greu angor amser. Trwy olrhain angorau amser mewn archifau amrywiol mae modd cysylltu a chymharu’r cofnodion yn dra-chywir heb yr ansicrwydd sy’n nodweddiadol o ddulliau dyddio amgen. Mae Antarctica yn rhanbarth folcanig actif ac felly’n ddelfrydol ar gyfer defnyddio teffrogronoleg. Hyd yma, mae astudiaethau o ludw yn yr iâ wedi canolbwyntio ar haenau sy’n weladwy i’r llygad er bod astudiaethau diweddar yn dangos bod potensial mawr i olrhain dyddodion meicroscopig.   

Bwriad y prosiect yw ehangu a datblygu’r potensial o ddefnyddio angorau amser meicroscopig o fewn colofnau dwfn llen iâ Dwyrain Antarctica a dyddodion o wely’r môr oddi ar arfordir y cyfandir, gan ganolbwyntio ar gyfnodau heriol lle mae angen dybryd am angorau amser. Bydd y prosiect yn gwneud cyfraniad uniongyrchol tuag at ddyddio archifau eiconig pegwn y De yn ogystal â darparu gwybodaeth newydd am hanes echdoriadau Antarctica yn y gorffennol. Gwneir defnydd o archifau sydd wedi eu casglu yn barod a’u storio mewn rhewgelloedd a storfeydd yn Ewrop. Bydd y prosiect yn defnyddio dulliau megis meicrosgopeg optegol, dadansoddi cemegol gyda meicroprôb electron a system ICP-MS gydag abladiad laser.   

Anogir ymgeiswyr i gyflwyno ymholiadau anffurfiol am ysgoloriaethau i ddarpar oruchwylwyr a hynny cyn y dyddiad cau; cyflwynwch yr ymholiadau hyn ir aelod(au) staff perthnasol yn y gyfadran. 

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill, neu disgwylir iddynt ennill, gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a/neu ragoriaeth ar lefel meistr. 

  • Lle mae gan ymgeiswyr raddau meistr lluosog, rhaid cael rhagoriaeth yn y radd sydd fwyaf perthnasol i'r astudiaeth PhD arfaethedig.
  • Os ydych ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel meistr gyda dyddiad dyfarnu disgwyliedig sy'n hwyrach na 01/10/2024, dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf.
  • Dylech allu dangos llwyddiant gydag isafswm gradd cyfartalog o 70% o leiaf ar gyfer eich modiwlau gradd meistr rhan-un (yr agwedd a addysgir ar eich cwrs meistr yn hytrach na thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar ymchwil) a chyflwyno'ch traethawd hir erbyn ddim hwyrach. na 30/09/2024.

Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth (h.y. myfyriwr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu'r DU) ond nid oes gennych radd yn y DU, gallwch wirio ein gofynion mynediad cymaradwy (gweler cymwysterau penodol i wledydd).

Rhaid i ymgeiswyr allu dechrau eu cwrs astudio ym mis Hydref 2024. Fel rhaglen sy'n seiliedig ar garfan, ni chaniateir gohirio i gyfnod cofrestru arall o fewn y flwyddyn academaidd neu flwyddyn academaidd arall.  

Gofynion Iaith Gymraeg:  

Mae gofynion mynediad safonol y rhaglen yn berthnasol, gyda’r gofyniad ychwanegol o allu ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg (a/neu feddu ar radd C neu uwch TGAU mewn llenyddiaeth Gymraeg). 

Oherwydd cyfyngiadau cyllido, ar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd gan reoliadau UKCISA. 

Os oes cwestiynau gennych ynghylch eich cymhwysedd academaidd neu'ch cymhwysedd o ran ffioedd dysgu, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk, gan roi manylion am yr ysgoloriaeth(au) y mae gennych ddiddordeb ynddi/ynddynt ac URL y dudalen we berthnasol. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu ffïoedd dysgu'r DU yn llawn gan gynnwys cyflog blynyddol ar raddfa UKRI (sef £19,237 ar gyfer 2024/25 ar hyn o bryd).

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Daearyddiaeth Ffisegol / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS657 - Tracking Volcanic Ash'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein) 

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni'r gofyniad Iaith Gymraeg
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â'r Athro Siwan Davies (siwan.davies@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.