Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: WGSSS yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Maes pwnc/pynciau: Ysgoloriaeth Ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yr ESRC ar y llwybr Astudiaethau Empirig yn y Gyfraith a Throseddeg 

Dyddiad(au) dechrau'r prosiect:

  • 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr: 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr gysylltu â darpar oruchwyliwr cyn cyflwyno cais, er mwyn cadarnhau bod gallu goruchwylio priodol ar gael yn y Brifysgol ac er mwyn trafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar . Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru yr ESRC.  

Efallai bydd cynrychiolwyr y llwybr yn Abertawe, Michelle Coleman a Mike Harrison, yn gallu eich cynghori chi.  

Arweinydd y Llwybr: Emma Nishio (Y Gyfraith) a Mike Harrison (Troseddeg) 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Troseddeg neu PhD yn y Gyfraith 

Dull Astudio:  Mae modd astudio’n amser llawn neu'n rhan-amser. 

Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil ran-amser yr ESRC fod mewn swydd amser llawn. 

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae Prifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethuriaeth Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn gwahodd ceisiadau i astudio am PhD, gyda'r posibilrwydd o ennill ysgoloriaeth ymchwil a ariennir yn llawn gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC, i ddechrau ym mis Hydref 2025. 

Ers blynyddoedd lawer, mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) wedi cefnogi ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe drwy roi ysgoloriaethau ymchwil a ariennir drwy ei gystadleuaeth flynyddol.  Caiff ymgeiswyr eu cefnogi gan dîm dynodedig o weithwyr ymchwil ôl-raddedig proffesiynol a'u goruchwylio gan academyddion hynod brofiadol mewn Troseddeg neu'r Gyfraith.     

Mae Troseddeg yn rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, gan ychwanegu rhyngddisgyblaethau ategol mewn astudiaethau cyfreithiol, Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, Y Ganolfan ar gyfer Newid Cymdeithasol, a'r Ganolfan gydweithredol ar gyfer Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg (CCJC). Mae'r CCJC yn cynnal ymchwil empirig ryngddisgyblaethol ar feysydd gan gynnwys polisi cyfiawnder ieuenctid, polisïau ar gyffuriau a throseddeg, plismona, troseddeg mewn chwaraeon, gwaith rhyw, troseddau pobl bwerus, economi wleidyddol troseddau yn Ne'r Byd, diogelwch forol a throseddau, terfysgaeth a seiberdroseddau. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn gartref i Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol yr ESRC (Cymru), sy'n hwyluso mynediad at ddata gweinyddol dienw cysylltiedig mewn amgylchedd diogel. 

Mae Ysgol y Gyfraith yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol sy'n lleoliad unigryw i gynnal ymchwil empirig neu gymdeithasol-gyfreithiol sy'n cysylltu'r gyfraith â phryderon a dulliau'r gwyddorau cymdeithasol.  Mae gan Ysgol y Gyfraith Abertawe ddiwylliant ymchwil bywiog a gweithgar, gan gynnwys y canlynol: CCJC; Canolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC); Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL); Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant; a Grŵp Ymchwil Llywodraethu a Hawliau Dynol. Yn y gorffennol, mae'r Ysgol wedi cefnogi ysgoloriaethau ymchwil ar draws ystod eang o is-ddisgyblaethau, gan gynnwys: y gyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol; addysg gyfreithiol; hawliau dynol; cyfraith anabledd; cyfraith lloches; cyfraith camweddau; cyfraith amgylcheddol; cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a llywodraethu; cyfraith teulu; canfyddiadau risg yng nghlybiau chwaraeon y trydydd sector; risgiau bancio ac amgylcheddol; cyfraith/polisi tai cymharol yng Nghymru a Lloegr; a safbwyntiau cyfansoddiadol ar Ddatganoli yng Nghymru.  

Bydd myfyrwyr sy'n dilyn llwybr ‘1+3.5’ yn ymgymryd â'r cwrs MSc Dulliau Ymchwil Gymdeithasol sy'n datblygu gallu methodolegol eang yn ogystal â modiwlau arbenigol a thraethawd hir dan oruchwyliaeth sy'n fwy penodol i'r pwnc. Bydd myfyrwyr yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe'n bennaf, er y cânt eu gwahodd i ddigwyddiadau Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru mewn lleoliadau eraill yng Nghymru.  Drwy'r PhD, bydd holl fyfyrwyr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru'n dod ynghyd am weithdai ar y cyd, cyrsiau preswyl a chynadleddau blynyddol. Bydd seminarau'n cynnwys y rhai a drefnir gan Gynhadledd Canolfan Troseddau a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Neuadd Gregynog, Powys bob blwyddyn, sydd hefyd yn cynnal diwrnodau hyfforddiant ôl-raddedig preswyl.  Yn y digwyddiadau hyn a rhai eraill, gall myfyrwyr weithio a chyflwyno ochr yn ochr ag ymchwilwyr sefydledig. 

Hyd astudio: 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.  

Gall yr astudiaeth bara rhwng tair blynedd a hanner a phedair blynedd a hanner amser llawn (neu gyfnod cyfatebol os yw'n rhan-amser) gan ddibynnu ar eich profiad ymchwil blaenorol.  

Bydd Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn YGGCC, yn asesu anghenion hyfforddiant ymgeiswyr llwyddiannus ac yn gweithio gyda nhw i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig iddynt i ddiwallu eu hanghenion ymchwil. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw. 

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o 3 mis i gyd (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.

 

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.  

Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.

Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.    

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser. 

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.

Cyllid

Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd). 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd). 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn.  

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch:

    Y Gyfraith/ Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
    Y Gyfraith/ Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref

    neu

    Troseddeg / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
    Troseddeg/ Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref


    Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS693 - WGSSS 1'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein) 

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV (dwy dudalen ar y mwyaf) 
  • Cynnig ymchwil (uchafswm o 1000 o eiriau) (ynghyd â chyfeiriadau llyfryddiaethol) 
  • Manylion am gymwysterau academaidd/proffesiynol ac unrhyw brofiad ymchwil perthnasol 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd 
  • Llythyr eglurhaol, hyd at ddwy dudalen.Rhaid i'r llythyr eglurhaol gynnwys yr is-benawdau a nodir yn atodiad 1 Canllawiau WGSSS 2024 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol 
  • Tystiolaeth o fodloni'r gofyniad Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol) 
  • Copi o fisa preswylydd y DU (os yw’n berthnasol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.