Dyddiad cau: 1 Awst 2024

Gwybodaeth Allweddol

 

Ysgoloriaeth MSc drwy Ymchwil wedi'i Hariannu'n Llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU:Designer nanoparticles for biomedicine and energy: Physics meets biology and chemistry

Darparwyr cyllid: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Grove Nanomaterials

Meysydd pwnc: Bydd yr ymchwil yn gorgyffwrdd pynciau megis Peirianneg Deunyddiau, Ffiseg, Cemeg Ffisegol/Peirianneg, neu'r Gwyddorau Biofeddygol a disgyblaethau ehangach.

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi)

Goruchwylwyr y Prosiect: 

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Deunyddiau

Dull astudio: Amser llawn

Dyma ddolen i ddisgrifiad llawn o'r prosiect.

Cymhwyster

Mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd Baglor y DU ac o leiaf anrhydedd ail ddosbarth uwch neu radd Baglor dramor yr ystyrir ei bod yn gyfwerth ag anrhydedd y DU (gan UK ECCTIS) a rhaid eu bod wedi ennill gradd sy'n cyfateb i anrhydedd ail ddosbarth uwch y DU mewn Peirianneg neu ddisgyblaeth gwyddonol berthnasol debyg. Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth ond nid oes gennych radd o'r DU, gallwch wirio ein cymhariaeth o ofynion mynediad (gweler cymwysterau gwledydd penodol). Sylwer y gall fod angen i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch rhuglder yn yr iaith Saesneg.

Oherwydd cyfyngiadau cyllidoar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu'r DU a chyflog gwerth £13,000.

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Peirianneg Deunyddiau / MSc drwy Ymchwil / Amser llawn / 1 Flwyddyn / Hydref

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS638 - Designer Nanoparticles'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe:  

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych ymholiadaucysylltwch â David Warren (d.j.warren@abertawe.ac.uk) / Thomas Lewis (thomas.lewis@abertawe.ac.uk). 

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.