Dyddiad cau: 19 Awst 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: Ariennir ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe (Cronfa Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant) 

Maes pwnc/pynciau: Seicoleg, Lles, Seicoleg Gadarnhaol, Meddwl drwy Systemau 

Dyddiad dechrau'r prosiect (dileer fel y bo'n briodol) 

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr:

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Seicoleg 

Dull Astudio: Amser llawn 

Disgrifiad o'r prosiect:  

Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg (WGRPB), rydym yn hysbysebu prosiect PhD gyda'r nod o wella lles cymunedol yng ngorllewin Morgannwg. Mae'r ymdrech hon yn integreiddio fframweithiau damcaniaethol, ymyriadau ymarferol, a dulliau methodolegol arloesol, wrth ystyried amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol y boblogaeth. Mae'r astudiaeth hon yn ceisio mynd i'r afael â'r cwestiwn cyffredinol o sut i hyrwyddo lles cyfannol wrth archwilio heriau a chyfleoedd cynnal ymchwil mewn cymuned ddwyieithog. 

Cymhwyster

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.

Cyllid

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Seicoleg / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref 

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS670 - Holistic Wellbeing'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe:  

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol sy'n amlygu profiad (ddim o angenrheidrwydd o natur academaidd) o weithio gyda phobl a chanddynt setiau sgiliau gwahanol a pham rydych chi o’r farn eich bod yn addas ar gyfer y radd MSc hon. Amlygwch unrhyw feysydd lle mae gennych brofiad blaenorol a allai fod yn berthnasol i'r prosiect hwn (asesiad cylch bywyd, cynnal arolygon ac ati).
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â'r Athro Andrew Kemp a.h.kemp@abertawe.ac.uk 

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.