Dyddiad cau: 24 Gorffennaf 2024 (23:59 GMT)

Gwybodaeth Allweddol

Darparwyr cyllid: Prifysgol Abertawe

Meysydd pwnc: Seicoleg Gymdeithasol 

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr

  • Dr Gabriela Jiga-Boy (Ysgol Seicoleg - G.Jiga@abertawe.ac.uk)
  • Dr Dion Curry (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol)
  • Cynghorydd allanol- Dr Jennifer Cole (Northeastern University, USA)

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Seicoleg

Dull astudio: Amser llawn

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gynnig ei pumed garfan o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil wedi'u hariannu'n llawn (SURES) ar gyfer astudio am radd doethur amser llawn ym mis Hydref 2024. 

Nod y prosiect hwn yw ymchwilio i ddau ffactor allweddol sy'n tanseilio cydymffurfiaeth â pholisïau cyhoeddus ar bynciau megis iechyd (e.e. brechiadau) neu ymddygiad cynaliadwy (e.e. cyfyngiadau cyflymder, parthau carbon isel): 1. diffyg ymddiriedaeth pobl mewn swyddogion iechyd cyhoeddus, yn enwedig y rhai hynny y maent yn anghytuno â hwy; a 2) camdybiaethau pobl ynghylch arferion cymdeithasol (h.y. a fyddai pobl eraill fel hwy'n cydymffurfio ai peidio). Dangosodd ymchwil a gyhoeddwyd gan ein tîm fod pobl yn cefnogi polisïau'n llai pan gânt eu cynnig gan arweinwyr nad ydynt yn eu hoffi neu nad ydynt yn ymddiried ynddynt (Cole et al., 2022; Flores et al., 2022); a bod pobl yn cytuno ag eraill fod diogelu iechyd yn bwysig – ond, er gwaethaf y fath gytundeb, maent yn amcangyfrif yn rhy isel i ba raddau y bydd eraill yn cydymffurfio â chyfyngiadau COVID-19 (Cole et al., yng nghanol adolygiad). Gall cynyddu ymddiriedaeth mewn arweinwyr a chywiro camdybiaethau ynghylch barn pobl eraill leihau polareiddio a sicrhau cefnogaeth i bolisïau cyhoeddus. Rydym am ateb amrywiaeth o gwestiynau ymchwil, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol: A yw cyfathrebu'n dryloyw am bolisïau iechyd ac ymddygiad cynaliadwy'n lleihau polareiddio ar bynciau o'r fath ac yn cynyddu ymddiriedaeth mewn arweinwyr? Pa mor gywir yw canfyddiadau pobl ynghylch yr hyn y mae pobl eraill fel hwy yn ei wneud neu’r hyn y byddent yn ei wneud? Beth yw canlyniadau camddeall arferion cymdeithasol i ymddygiad unigolion? Ac a allwn gywiro camdybiaethau ynghylch arferion cymdeithasol? 

Mae'r prosiect hwn yn dibynnu ar ddwy linell ymchwil gadarn, gan gynnwys gwaith wedi'i ddatblygu gan aelodau'r tîm hwn a'u cydweithredwyr rhyngwladol. Yn gyntaf, mae cyfathrebu'n dryloyw am fuddion a risgiau llawer o bolisïau cyhoeddus yn cynyddu ymddiriedaeth mewn awdurdodau yn y tymor hir, ond mae siarad mewn modd annelwig a chysurlon (fel y mae llawer o arweinwyr gwleidyddol yn annerch y cyhoedd) yn lleihau ymddiriedaeth (Kerr et al., 2022; Petersen et al., 2021). Yn ail, mae pobl yn camddeall barn eu cymheiriaid am bolisïau iechyd cyhoeddus – ffenomen o'r enw ‘pluralistic ignorance’ (Prentice a Miller, 1993) – ac, o ganlyniad i hynny, maent yn credu bod y byd wedi'i bolareiddio'n fwy nag ydyw (Fernbach a Van Boven, 2022; Lees a Cikara, 2020, 2021). 

Rydym am benodi myfyriwr PhD a fydd yn datblygu'r prosiect hwn gan ddefnyddio dulliau o seicoleg gymdeithasol arbrofol a gwyddor gwleidyddiaeth i gynyddu cydymffurfiaeth â pholisïau cyhoeddus drwy gynyddu ymddiriedaeth a chywiro camdybiaethau. Yr amcan cyntaf fydd adolygu'r llenyddiaeth bresennol am ymddiriedaeth mewn arweinwyr cyhoeddus (e.e. gwleidyddion, llunwyr polisi) ac am ganfyddiadau pobl ynghylch iechyd ac ymddygiad cynaliadwy. Yr ail amcan fydd profi strategaethau i gynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn arweinwyr cyhoeddus. Yn olaf, y trydydd amcan fydd profi strategaethau i gywiro camdybiaethau ynghylch arferion cymdeithasol.

Dylai ymgeiswyr gynnwys cynnig ymchwil 500 o eiriau, gan nodi cwestiwn ymchwil enghreifftiol (yn unol â chwmpas y prosiect presennol) a'r dulliau y byddent yn eu defnyddio i ateb y cwestiwn ymchwil hwn; dylai hyn hefyd gynnwys disgrifiad byr o'r dull dadansoddi a fyddai'n cael ei ddefnyddio i ddadansoddi'r data.

Cymhwyster

Cyllid

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Seicoleg / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘‘RS658 - Health Decision Making''

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein) 

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost):

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Sampl o waith ysgrifennu (e.e. traethawd a gyflwynwyd fel aseiniad prifysgol)
  • Llythyr eglurhaol byr, yn nodi addasrwydd am y rôl 
  • Cynnig ymchwil 500 o eiriau
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Dr Gabriela Jiga-Boy (G.Jiga@abertawe.ac.uk)

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.