Myfyrwyr yn astudio tran'n gwisgo masgiau wyneb

Mae Prifysgol Abertawe'n croesawu canllawiau newydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn ein galluogi i barhau i gynnig rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb o fis Medi, gan ddal ati i flaenoriaethu diogelwch staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach yn ein holl weithgarwch.

Anogir myfyrwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd i gael prawf cyn iddynt ddod i'r brifysgol, ac i gael profion rheolaidd am y 28 diwrnod cyntaf ar ôl iddynt gyrraedd. Bydd unrhyw un 18 oed neu'n hŷn sydd heb gael ei frechu yn cael trefnu brechiad ar unwaith.

Rydym wrthi'n ystyried manylion y canllawiau a byddwn yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am y trefniadau dysgu ac addysgu pan fo modd. Byddwn hefyd yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i ddarparu rhaglen ddifyr a diogel i alluogi'r myfyrwyr newydd i ddod i adnabod ei gilydd ar ôl cyrraedd.

Ein nod, fel arfer, yw cynnig profiad o'r radd flaenaf i bob myfyriwr, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd i'n campysau hardd a phopeth a gynigir gan Abertawe a'r ardal gyfagos.

Rhannu'r stori