Llun o'r awyr o gampws Parc Singleton

Bydd Prifysgol Abertawe yn dilyn nifer o gamau er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr ddychwelyd i Abertawe yn ddiogel tra bod lefelau cenedlaethol Covid-19 yn uchel.

Mae'r Brifysgol wedi bod yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru ar gyfer amrywio dyddiadau dychwelyd myfyrwyr, a fydd yn golygu y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cael eu haddysgu ar-lein i ddechrau, gyda dim ond nifer fach yn dychwelyd ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb hanfodol. Dim ond y rhai sy'n astudio rhaglenni sy'n ymwneud ag iechyd ac ychydig o gyrsiau eraill, yn bennaf ym maes gwyddoniaeth, fydd yn cael dychwelyd, am y tro.

Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu i'r trefniant hwn barhau tan ganol mis Chwefror, a byddwn yn parhau i adolygu hyn yn rheolaidd. Rydym yn dal i gredu bod ein campysau mor ddiogel ag y gallant fod, ond o ystyried y lefel uchel iawn o coronafeirws yn y boblogaeth genedlaethol ar hyn o bryd, teimlwn ei bod yn synhwyrol i leihau’r nifer o bobl sy'n dychwelyd i Abertawe, i'r Brifysgol, ac i lety preifat yn y ddinas am y tro. 

Gwyddom pa mor rhwystredig y gallai hyn fod i rai o'n myfyrwyr, ond yn y pen draw rydym yn cymryd y camau y teimlwn sy'n angenrheidiol i gadw ein staff, ein myfyrwyr a'n cymuned leol mor ddiogel ag y gallwn. 

Bydd y Brifysgol hefyd yn sicrhau bod profion llif unffordd (LFT) ar gael eto i fyfyrwyr o'r wythnos nesaf ac maent wedi cael canllawiau ar sut i archebu profion. Cynghorir myfyrwyr sy'n dewis dychwelyd cyn i'r profion fod ar gael i aros yn eu llety ac i osgoi cymysgu â phobl eraill cymaint ag sy’n bosib cyn i’r profion LFT ddechrau.

Bydd y Brifysgol yn adolygu'r camau hyn yn gyson a byddwn yn parhau i gyfathrebu'n rheolaidd â myfyrwyr, staff a'r gymuned leol.

Rhannu'r stori