Abaty Singleton

Gwnaeth Prifysgol Abertawe ddiswyddo tri chyflogai, gan gynnwys Richard Davies, yr Is-ganghellor, a Marc Clement, Deon yr Ysgol Reolaeth, yn 2019 ar ôl ymchwiliad helaeth i honiadau o gamymddwyn difrifol. 

O ganlyniad i ymchwiliad i daliad terfynu swydd afreolaidd i'r cyn-gofrestrydd Raymond Ciborowski, daethpwyd o hyd i dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod gan Raymond Ciborowski a sawl cyflogai arall fuddiannau sylweddol nas datganwyd ac y byddent yn elwa'n ariannol o gyfranogiad y Brifysgol mewn prosiectau masnachol yr oeddent yn ymwneud â hwy fel cyflogeion y Brifysgol. Byddai'r elw'n cynnwys cyflogau yn deillio o benodiadau yn y dyfodol ac ecwiti gwerth miliynau o bunnoedd o bosib. Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod buddiannau pwysig a difrifol y dylid bod wedi eu datgan yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol.

Gwaharddwyd Marc Clement, Steve Poole a Bjorn Rodde, a oedd yn gweithio yn Ysgol Fusnes y Brifysgol, o'r gwaith dros dro a phenodwyd bargyfreithiwr blaenllaw ym maes cyfraith cyflogaeth, heb unrhyw gysylltiad blaenorol â'r Brifysgol, yn Rheolwr Ymchwiliad i gynnal ymchwiliad disgyblu. Yn dilyn yr ymchwiliad, a oedd yn cynnwys sawl cyfweliad â'r unigolion a waharddwyd ac adolygiad o nifer sylweddol o ddogfennau, cyflwynodd y Rheolwr Ymchwiliad adroddiad i'r Brifysgol ym mis Mai 2019 a oedd yn awgrymu bod tystiolaeth o gamymddwyn difrifol ac yn argymell y dylai panel disgyblu ystyried yr honiadau yn erbyn pob un o'r unigolion.

Ym mis Gorffennaf 2019, ar ôl adolygu'r dystiolaeth, cynnal cyfweliadau a derbyn sylwadau gan yr unigolion, gwnaeth y panel disgyblu ddiswyddo Marc Clement a Steve Poole yn ddiannod am gamymddwyn difrifol.

Gwaharddwyd Richard Davies (a fu gynt yn Is-ganghellor) o'r gwaith dros dro hefyd mewn cysylltiad â'r ymchwiliad. Fe'i diswyddwyd yn ddiannod am gamymddwyn difrifol ac esgeuluster difrifol ym mis Gorffennaf 2019. Nid oedd Richard Davies dan amheuaeth yn yr ymchwiliad troseddol a gynhaliwyd gan yr heddlu.

Apeliodd pob un o'r tri unigolyn a gwrthodwyd yr apeliadau hynny gan y Brifysgol. Mae'r tri unigolyn hyn, ynghyd â Bjorn Rodde, a waharddwyd o'r gwaith dros dro ond a ymddiswyddodd cyn diwedd y broses ddisgyblu, wedi cyflwyno hawliadau i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Mae'r penderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron na fydd er budd y cyhoedd i erlyn yr unigolion dan amheuaeth yn dilyn ymchwiliad dwy flynedd gan yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol. Nid oedd y penderfyniad yn deillio o ddiffyg tystiolaeth i roi erlyniad ar waith.

Mae'r ymchwiliad troseddol a phrosesau disgyblu mewnol y Brifysgol yn hollol annibynnol ar ei gilydd fel y buont erioed. Diswyddwyd yr unigolion am dramgwyddo gweithdrefnau'r Brifysgol, a hynny'n ddifrifol, yn hytrach nag am ymddygiad troseddol ac nid yw penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron yn berthnasol i hyn o gwbl.

Ni all y Brifysgol wneud unrhyw sylwadau eraill gan fod camau cyfreithiol yn parhau.

Rhannu'r stori