Llun o'r ddôl, Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe.

Bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal ymarfer hyfforddiant ar gyfer ei myfyrwyr parafeddygol ddydd Gwener 10 Mai ar Gampws Singleton, gan ddod â myfyrwyr parafeddygol, staff ac aelodau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ynghyd.

Nod yr ymarfer yw rhoi cyfle i'r myfyrwyr parafeddygol ddatblygu eu profiad o frysbennu, cludo a rheoli cleifion yn ystod digwyddiadau mawr.

Dylai myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach fod yn ymwybodol y bydd cyfyngiadau parcio ar y campws, yn ogystal â mwy o weithgarwch a phresenoldeb cerbydau ambiwlans ar ddôl y safle, ond ni rhagwelir y bydd unrhyw darfu ehangach.

Rhannu'r stori