Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Astudiaeth o wybodaeth am yr hinsawdd dros ddeuddeg ganrif yn datgelu y dylai Ewrop baratoi ar gyfer hafau mwy gwlyb yn ogystal â sychach wrth i'r hinsawdd gynhesu.

Mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr wedi cyhoeddi astudiaeth sy'n archwilio sut mae tymheredd a sychder yn ystod yr haf wedi amrywio yn Ewrop yn y gorffennol, sy'n gallu dweud mwy wrthym am donnau gwres a sychderau yn y presennol ac yn y dyfodol.

Mae'r astudiaeth yn rhoi sychder diweddar yr haf yng nghyd-destun y 12 ganrif diwethaf, gan ddatgelu bod gogledd Ewrop wedi tueddu i gael tywydd gwlypach yn ystod cyfnodau cynnes, a bod tywydd de Ewrop wedi tueddu i fod yn sychach yn hanesyddol.

Mae'r astudiaeth yn datgelu bod gwella ein dealltwriaeth o'r berthynas rhwng gwres yr haf a sychder yn hollbwysig, nid yn unig er mwyn deall patrymau sychder tebygol y dyfodol, ond y perygl o lifogydd yn ystod yr haf yn ardaloedd gogleddol Ewrop hefyd.

Mae'r astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn Environmental Research Letters, yn archwilio darlun hanesyddol o dymheredd yr haf a sychder drwy ddefnyddio mesuriadau tywydd sy'n dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif, ail-greu tymheredd ar sail cylchoedd twf coed a sychder sy'n dyddio'n ôl i'r 9fed ganrif ac efelychiadau model o'r hinsawdd.

Cymharwyd darlun hanesyddol o sychder a thymheredd ag efelychiadau o'r hinsawdd drwy ddefnyddio'r un modelau hinsoddol sy'n cael eu defnyddio i ddarogan newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Datgelodd y gymhariaeth hon nad yw efelychiadau model o'r hinsawdd, sy'n dangos perthynas syml i Ewrop, lle mae hafau mwy cynnes hefyd yn sych, yn cyd-fynd â'r darlun a ddatgelwyd gan y cofnodion hanesyddol sy'n dangos bod rhan fawr o Ewrop wedi derbyn mwy o law, nid llai, pan fu hi’n gynnes yn ystod y 12 ganrif diwethaf.

Meddai arweinydd y prosiect, Dr Fredrik Charpentier Ljungqvist, sy'n Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Stockholm: “Mae'r canfyddiadau newydd hyn yn bwysig gan y gallwn weld am y tro cyntaf bod y berthynas rhwng tymheredd yr haf a sychder mewn mesuriadau tywydd modern wedi parhau am o leiaf 12 o ganrifoedd. Gallwn hefyd weld bod tueddiad gwlypach yr 20fed ganrif yng ngogledd Ewrop, a'r tueddiad am dywydd sychach yn ne Ewrop, yn gyffredin o safbwynt y tymor hwy."

Meddai awdur yr astudiaeth, Mary Gagen, sy'n Athro Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym ni wedi gwybod ers amser bod yr hinsawdd yn newid o ganlyniad i weithgaredd dynol, ond rydym ni hefyd yn gwybod nad yw pob man yn profi cynhesu syml yn unig. Yr hyn y mae angen ei wneud nawr yw ychwanegu manylion at ein dealltwriaeth o fyd sydd wedi newid, pa rannau a fydd yn profi tywydd hynod o wlyb a pha rannau a fydd yn profi tywydd sychach. Pan fyddwn yn profi hafau â thymereddau eithafol yn Ewrop, mae angen i ni ddeall lle mae'n debygol y bydd sychder yn cyd-fynd â thymheredd uchel hefyd a lle mae'n debygol y bydd llifogydd yn cyd-fynd ag ef. Mae astudiaethau fel ein hastudiaeth ninnau yn ystyried amrywioldeb y gorffennol o ran tymheredd a glaw, gan ein helpu i ddeall manylion ein hinsawdd wrth iddi newid."

Wrth barhau i drafod canlyniadau'r model hinsawdd , dywedodd Dr Ljungqvist: “Yn bwysicaf oll, mae'n hastudiaeth ni'n dangos y gallai'r cysylltiad cryf rhwng cyfnodau cynnes a sych sy'n cael eu hefelychu yn y modelau hinsawdd fod yn rhy syml. Nid yw hyn yn ddarlun sy'n cael ei gefnogi gan gofnodion cylchoedd twf coed na chofnodion y tywydd. Nid yw efelychiadau o'r hinsawdd yn ystyried yn ddigonol brofiad rhan helaeth o Ewrop o hafau sy'n fwy gwlyb pan fydd yr hinsawdd yn fwy cynnes.

“Mae'n awgrymu gor-ddweud posib ym modelau'r hinsawdd o risg o sychder sydd wedi'i leihau gan dymheredd mewn rhannau o ogledd Ewrop sy'n destun cynhesu byd-eang. Ond, yn ogystal golyga hyn ei bod hi'n bosib iawn nad yw modelau wedi ystyried cwymp glaw gormodol yn y dyfodol, gyda'r risgiau cysylltiedig o lifogydd yng ngogledd Ewrop.”

 

Rhannu'r stori