Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Bydd Prifysgol Abertawe unwaith eto'n arddangos ei hymchwil sy'n ysbrydoli i bobl Abertawe yn hwyrach y mis hwn pan fydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd ar gyfer trydedd flwyddyn.
Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, bydd yr Ŵyl yn dechrau gyda'r Penwythnos i'r Teulu ar 26-27 Hydref – a ddenodd dros 9,000 o ymwelwyr y llynedd.
Gyda mwy na deugain o arddangosfeydd a channoedd o weithgareddau rhyngweithiol, bydd y Penwythnos i'r Teulu yn mynd ag ymwelwyr ar siwrnai ddarganfod wrth i ymchwilwyr archwilio dyfnderoedd y môr, y tir, yr awyr a'r gofod. Bydd ymwelwyr ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfle i ymweld â Lyons Wand Shop, lle gallwch wneud eich hudlath unigryw eich hun gan ddefnyddio cod; gweld y Biolegydd Bywyd Gwyllt o'r teledu, Lizzie Daly; a dweud 'Ello!' wrth Mr Bloom o CBeebies.
Yn y cyfamser, gall teuluoedd a phobl sy'n ymddiddori yn y theatr ddisgwyl adrodd stori hudolus gan y Theatr na nÓg arobryn yn Theatr Dylan Thomas, gyda dewis o berfformiadau Cymraeg neu Saesneg o The Butterfly Hunter a Heliwr Pili Pala.
Eleni, fel rhan o'r Ŵyl Ymylol a gynhelir mewn lleoliadau ar draws y ddinas tan 1 Tachwedd gydag amrywiaeth o arddangosiadau a gweithdai, bydd Prifysgol Abertawe'n uno â lleoliadau yn Uplands i gynnal digwyddiad cyntaf Gyda'r Hwyr.
Gall pobl dros 18 oed fwynhau perfformiadau byw gan y mathemategydd cerddorol Kyle Evans, yn ffres o'i sioe yng Ngŵyl Ymylol Caeredin; yn ogystal â'r digrifwr, awdur a darlledwr, Robin Ince.
Mae gweithgareddau eraill yr Ŵyl Ymylol yn cynnwys cyfleoedd i ymuno â'r tîm ymchwilwyr safle trosedd (CSI) yn orielau llawn awyrgylch amgueddfa i ddatrys dirgelwch llofruddiaeth, ac i wrando ar recordio drama radio fyw yn dilyn siwrnai gwyddonydd blaenllaw yn NASA yn ystod hannercanmlwyddiant glanio ar y lleuad.
Dywedodd Andrew Rhodes, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe:
"Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, rydym yn gobeithio gwneud Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe hyd yn oed yn fwy ac yn well na blynyddoedd blaenorol. Drwy'r digwyddiad hwn, rydym yn dod â'n hymchwil blaenllaw i galon y gymuned drwy ystod eang o weithgareddau rhyngweithiol a dangos bod gwyddoniaeth i bawb, nid academyddion yn unig.
"Rydym yn hapus i gyhoeddi eleni y byddwn yn gweithio gyda nifer o arddangoswyr corfforaethol, gan gynnwys ICC Cymru, Tata Steel a Plantasia, ac elusennau hefyd, gan gynnwys Sefydliad Prydeinig y Galon a Gofal Canser Tenovus. Rydym hefyd wrth ein bodd y byddwn yn partneru unwaith eto ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac yn edrych ymlaen at groesawu pawb i'r digwyddiad gwych hwn."
Cymerwch olwg ar raglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe.