Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe wedi dod ynghyd i gefnogi myfyrwyr awtistig wrth iddynt baratoi i bontio o’r coleg i’r brifysgol.
Mae Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe wedi dod ynghyd i gefnogi myfyrwyr awtistig wrth iddynt baratoi i bontio o’r coleg i’r brifysgol.
Maent yn cydweithio ar brosiect ymchwil blwyddyn o hyd i ymchwilio i heriau posib y mae myfyrwyr ar y sbectrwm awtistig yn eu profi wrth newid o addysg bellach i addysg uwch.
Wedi’i arwain gan swyddog cefnogi myfyrwyr, Dr Mohammed Qasim, cydlynydd cefnogi dysgwyr Ceri Low ac ymarferydd y cyflwr sbectrwm awtistig a myfyrwraig PhD Heather Pickard-Hengstenberg, roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfweliadau manwl â’r nod o nodi’r heriau y mae myfyrwyr yn eu profi wrth bontio i’r brifysgol a datblygu rhwydweithiau cefnogi addas.
Meddai Dr Qasim: “Bydd ein partneriaeth yn sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd i gefnogi myfyrwyr ag awtistiaeth gan fod ymchwil wedi dangos eu bod yn ei chael hi’n anodd pontio rhwng y coleg a’r brifysgol am lawer rhy hir.
“Bellach, rydym wedi derbyn gwahoddiad i siarad ag ACau ac rydym ni hefyd yn bwriadu rhannu canfyddiadau ein hymchwil gyda cholegau addysg eraill.
Ychwanegodd Heather: “Mae’r gwasanaeth Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn gyffrous i weithio’n agos gyda Choleg Gŵyr Abertawe. Fel rhan o’m PhD, roedd gennyf y fraint o gyfweld â myfyrwyr coleg gwych gan alluogi’r astudiaeth ansoddol hon i ni nodi anghenion cefnogi penodol sydd gan y grŵp unigryw hwn o unigolion cyn dechrau yn y brifysgol.
“Mae’r bartneriaeth yn gam ymlaen wrth ddarparu ymyriadau cefnogi cynnar hanfodol a fydd yn galluogi myfyrwyr i barhau’n llwyddiannus ar eu taith addysgol yn y brifysgol.”
Meddai Gareth Bromhall, y mae ganddo gyflwr sbectrwm awtistiaeth ac sy’n astudio gradd Meistr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Mae mynd o’r coleg i brifysgol yn naid fawr ac mae’n wych y bydd myfyrwyr â chyflwr y sbectrwm awtistiaeth yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt i bontio a ffynnu ar gam nesaf eu haddysg. Mae Abertawe wedi bod yn ardderchog wrth fy nghefnogi i.”