Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Partneriaeth gydweithio Prifysgol Abertawe'n hyrwyddo addysg wyddoniaeth yng Nghymru
Mae Prifysgol Abertawe'n cydweithio ag OXIS Energy UK Ltd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu anodau metel lithiwm datblygedig i wella cylch bywyd batris lithiwm-sylffwr neu Li-S, sef batris y mae modd eu hailwefru sy'n enwog am eu hynni uchel yn benodol.
Yn rhan o’r bartneriaeth gydweithio, bydd OXIS yn rhan-ariannu myfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe ar raglen bedair blynedd o hyd i wella perfformiad batris Li-S. Daw gweddill yr arian gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPC) drwy Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) Prifysgol Abertawe .
Mae OXIS Energy eisoes yng nghanol sefydlu cyfleuster a adeiladwyd yn bwrpasol ym Mhort Talbot, ger Prifysgol Abertawe, er mwyn cynhyrchu deunydd electrolyt a chatod gweithredol yn benodol ar gyfer masgynhyrchu celloedd lithiwm-sylffwr. Bydd y cyfleuster hwn yn cynnwys offer uwch ac yn helpu OXIS i wella perfformiad ei dechnoleg yn ogystal â datblygu staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda drwy raglenni PhD ym Mhrifysgol Abertawe – arbenigedd y gallai OXIS elwa arno yn y dyfodol.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol OXIS Energy, Huw Hampson-Jones, a raddiodd o Brifysgol Abertawe: "Mae'n bleser gennym fod yn rhan o'r rhaglen PhD hon a fydd, gobeithiwn, yn rhoi cipolwg pellach ar yr ymchwil rydym yn ei chynnal. At hynny, rydym eisiau bod Cymru, drwy ein cyfleuster ym Mhort Talbot, yn arwain y ffordd wrth gynhyrchu celloedd lithiwm-sylffwr ar gyfer systemau batris yn fasnachol. Rydym o’r farn y bydd y rhaglen hon yn creu swyddi y mae angen sgiliau uchel ar eu cyfer ac yn helpu i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang."
Meddai'r Athro Owen Guy, sef pennaeth yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae ein partneriaeth gydweithio ag OXIS Energy yn hynod bwysig yn strategol i'r Brifysgol, ac mae'n datblygu arbenigedd grŵp Storio Ynni yr Athro Serena Margadonna, yn Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol y Brifysgol (FMRI).
Mae'r rhaglen PhD gydag OXIS yn un o blith y partneriaethau cydweithio ehangach ag OXIS, gan ddatblygu technolegau a chymwysiadau sy'n ymwneud â batris lithiwm-sylffwr. Mae OXIS hefyd yn bartner ym mhrosiect Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol gwerth £90M Prifysgol Abertawe. Bydd y berthynas yn cynnig y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr dawnus ar gyfer cyfleuster newydd OXIS Energy yng Nghymru."
Mae’r cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe ac OXIS yn enghraifft o ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ddatblygu technolegau mwy cynaliadwy. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr ymchwil i led-ddargludyddion sy’n cael ei gwneud yn y Brifysgol, gan gynnwys creu batris gwell sy’n para’n hwy, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio â ni, cysylltwch â ni