Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
CADR yn sicrhau cefnogaeth ariannol i gefnogi ymchwil i heneiddio yng Nghymru
Mae Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Prifysgol Abertawe (CADR) wedi derbyn £2.8m mewn cyllid i ymestyn eu prosiect am bum mlynedd arall tan 2025.
Daw'r hwb ariannol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae'n rhan o fuddsoddiad o £44m gan Lywodraeth Cymru i wella gofal a gwasanaethau.
Mae CADR yn ganolfan ymchwil o'r radd flaenaf sy'n chwilio am atebion i gwestiynau allweddol am.
Yn dilyn gweithrediad llwyddiannus CADR dros y bum mlynedd ddiwethaf o dan Gyfarwyddiaeth yr Athro Vanessa Burholt, bydd y ganolfan bellach yn cael ei chyd-gyfarwyddo gan Dr Charles Musselwhite a'r Athro Andrea Tales o'r Ganolfan Heneiddio Arloesol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe a byddant yn parhau i dynnu ar yr arbenigedd mewn heneiddio a dementia sydd i’w gael ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynhyrchu ac yn cefnogi ymchwil ragorol er mwyn gwella iechyd a gofal pobl yng Nghymru. Mae'n gwneud hyn mewn sawl ffordd gan gynnwys rhedeg cynlluniau cyllido ar gyfer prosiectau ymchwil o ansawdd uchel a chydweithio gyda'r GIG, academyddion, diwydiant, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.
Dywedodd Dr Charles Musselwhite, Athro Cysylltiol yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol a Chyd-gyfarwyddwr CADR:
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau cyllid pellach i ymestyn ymchwil CADR hyd at 2025. Mae'r ganolfan yn dwyn ynghyd yr ymchwilwyr gorau gyda pholisi ac arfer ledled Cymru i ddarparu ymchwil heneiddio cymhwysol o'r safon uchaf.
“Er gwaethaf y cynnydd yn y boblogaeth sy’n heneiddio, rydym yn dal i wynebu rhwystrau enfawr a rhagfarn ar sail oedran wrth inni heneiddio a’r nod yw mynd i’r afael â’r heriau hyn yn y prosiect er mwyn helpu pobl i fedru aros mewn cyswllt â‘r pethau maent am eu gwneud, i weithio, i wirfoddoli, i ofalu, i fedru mynd o gwmpas y lle ac i fyw'n dda. Byddwn yn parhau â'n cyfres seminarau ac yn defnyddio ein hadnoddau i gynnwys mwy o bobl hŷn mewn ymchwil ac i’w cael nhw’n rhan o’r broses o gyfathrebu ein neges i wneuthurwyr polisi, ymarferwyr a'r cyhoedd. Rydyn ni am i'n hymchwil gyfrannu at wneud Cymru y lle gorau i heneiddio'n dda ynddo."