Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Myfyrwyr yn barod i gefnogi cydweithwyr rheng flaen y GIG yn ystod argyfwng y feirws
Bydd myfyrwyr bydwreigiaeth a pharafeddyg o Brifysgol Abertawe yn rhoi eu cefnogaeth i gydweithwyr rheng flaen y GIG yn y frwydr yn erbyn pandemig y coronafeirws.
Bydd holl fyfyrwyr trydedd flwyddyn gradd bydwreigiaeth y Brifysgol yn cynorthwyo bydwragedd cymwys wrth iddynt warchod menywod a'u teuluoedd mewn unedau mamolaeth mewn byrddau iechyd ar draws Cymru.
Ar hyn o bryd, mae 101 o fyfyrwyr parafeddyg wedi cofrestru i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a byddant yn cefnogi'r gwasanaeth sy'n cyflawni cludiant cleifion nad yw'n fater brys nac yn argyfwng, fel dod â chleifion dialysis a chanser i gael triniaeth.
Meddai Nikki Williams, arweinydd tim ar gyfer astudiaethau parafeddyg: “Rwy’n hynod falch o’n myfyrwyr - y rhai sydd bron â chwblhau eu cwrs a’r myfyrwyr hynny yn eu blwyddyn gyntaf. Mae'n dangos sut mae ein myfyrwyr, ar adegau fel y rhain, yn barod i wneud yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod iechyd a llesiant y cyhoedd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth.”
Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Cysylltiol Parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Brifysgol am ddarparu myfyrwyr ledled De Cymru.
“Bydd y myfyrwyr parafeddyg yn caniatáu rhyddhau llawer o staff yn ôl tuag at ddyletswyddau rheng flaen wrth i ni reoli'r pandemig. Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn yn amhrisiadwy ar hyn o bryd a bydd o fudd mawr i'r myfyrwyr ac yn hollbwysig, yn rhoi hwb i'r gweithlu hyfforddedig sydd ar gael.”
Un o'r rhai a fydd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y GIG mewn uned famolaeth yw'r fyfyrwraig Angharad Colinese, sy’n astudio bydwreigiaeth.
Dywedodd: “Yn ddealladwy, rwy’n poeni am yr achosion a’r effaith y gallai ei chael ar y byd, fy nheulu, fy iechyd a fy ngradd.
“Ond des i mewn i’r proffesiwn bydwreigiaeth i geisio helpu menywod a theuluoedd, ac mae hyn yn bwysicach nawr nag erioed. Trwy wneud hyn, gobeithio y byddwn yn gallu cefnogi ein cydweithwyr bydwreigiaeth orau ag y gallwn."
Disgrifiodd pennaeth addysg bydwreigiaeth y Brifysgol, Dr Sarah Norris, y myfyrwyr fel rhai ysbrydoledig: “Byddant yn cynyddu eu horiau ymarfer yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf i gefnogi gwasanaethau mamolaeth a gweithio gyda chydweithwyr bydwreigiaeth i sicrhau bod mamau, babanod a'u teuluoedd yn parhau i dderbyn y gofal gorau bosibl yn yr amserau heriol hyn.
“Roedd y myfyrwyr yn hollol gadarnhaol wrth ymateb i’r cynnig hwn ac maent yn grŵp ysbrydoledig a fydd yn fydwragedd rhagorol yn y dyfodol.”
Dywedodd yr Athro Ceri Phillips, pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, fod y sefyllfa ddigyffelyb sy'n wynebu'r GIG yn galw am fesurau ymarferol.
Meddai: “Mae ein myfyrwyr iechyd proffesiynol yn sicrhau eu bod ar gael i gefnogi a gweithio ochr yn ochr â’u cydweithwyr yn y GIG ac rydym yn falch iawn o’u cyfraniad.
“Yn ogystal, mae staff o fewn y Coleg eisoes wedi gwirfoddoli i ddarparu hyfforddiant i staff y GIG mewn sgiliau gofal critigol, i’w galluogi i gyfrannu’n fwy effeithiol at drin y rhai sydd â feirws Covid-19.”