Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae grŵp o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cynnig ffordd ymarferol o helpu staff y GIG yn ystod pandemig y coronafirws.
Mae'r myfyrwyr, sy'n astudio Meddygaeth i Raddedigion (GEM), wedi gwirfoddoli i gynnig gofal plant brys i weithwyr iechyd yn Abertawe.
Sefydlwyd cynllun Gofal Plant Brys GEM gan Abigail Lyndon, myfyriwr Meddygaeth, a'r nod yw y bydd myfyrwyr ar gyrsiau meddygol a Chydymaith Meddygol yn darparu gofal plant i staff y GIG yn lleol.
Mae tîm o wyth myfyriwr - Abigail, Jenna Boss, Kimaya Pandit, Rachel Haigh, Jenny Hein, Khadija Stone, Alice Johnson a Ranmini Philomin - yn cynnal y cynllun, ar y cyd â mwy na 90 o fyfyrwyr gwirfoddol sydd wedi cynnig eu hamser hyd yn hyn. Ond maent yn dweud bod y nifer sy'n rhan o'r cynllun yn cynyddu ar garlam wrth i'r newyddion am y fenter ledaenu.
Dywedodd y grŵp eu bod i gyd yn ymwybodol iawn bod COVID-19 yn rhoi pwysau cynyddol ar staff y GIG ac, os bydd angen i ddarparwyr gofal plant gau, hunanynysu, neu os na allant gynnig gofal mwyach, gallai hyn roi staff rheng flaen y GIG mewn sefyllfaoedd anodd.
Meddent: "Rydym i gyd yn falch iawn o allu helpu'r GIG mewn unrhyw ffordd bosib a chan nad oes gennym gymwysterau meddygol eto, roedd hyn yn ymddangos yn ffordd wych o gynnig ein cymorth mewn cyfnod anodd.
"Mae'r holl wirfoddolwyr wedi cael eu gwirio gan y DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ac wedi derbyn hyfforddiant mewn triniaeth bywyd pediatrig sylfaenol drwy ein rhaglenni gradd, ac mae llawer ohonom wedi gweithio mewn rolau darparu gofal o'r blaen."
Ychwanegodd yr Athro Kamila Hawthorne, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Dyma stori hyfryd mewn amgylchedd newyddion drwg, ac mae'n dangos pa mor ymrwymedig yw ein myfyrwyr clinigol i dorchi llewys a helpu ein partneriaid lleol yn y GIG a'r gymuned leol mewn ffordd sydd wirioneddol yn cefnogi'r ymdrech i ymladd y coronafirws.
"Mae'r Ysgol Feddygaeth yn falch iawn ohonyn nhw!"