Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Pâr o Abertawe yn cynhyrchu hylif diheintio dwylo yng nghanol pandemig Covid-19
Mae darlithydd o Brifysgol Abertawe a'i gŵr wedi trawsnewid eu busnes poblogaidd i gynhyrchu hylif diheintio dwylo wrth i’r pandemig coronafeirws barhau.
Mae Siân Brooks a'i gŵr Andrew wedi cyfnewid gwneud gin am gynhyrchu hylif diheintio dwylo wrth i'r galw cynyddol am y cynnyrch ddwysau yn y wlad hon a thramor.
Mae'r pâr - sy'n berchen ar ac yn rhedeg cwmni Gower Gin Company - wedi cael cymorth gan eu mab Owain, sy'n fyfyriwr meistr ym Mhrifysgol Abertawe, tra bod Siân ei hun yn ddarlithydd TAR mewn Ieithoedd Tramor Modern.
Mae'r teulu wedi bod yn gweithio'n ddi-stop yn eu distyllfa yn nghanol Penrhyn Gŵyr i gynorthwyo gweithwyr allweddol a'r gymuned leol.
"Roeddem yn gallu gweld bod hylif diheintio dwylo yn prinhau yn lleol ac roeddem yn arbennig o bryderus am y gweithwyr rheng flaen lleol a’r ffaith eu bod yn peryglu eu bywydau heb fawr o amddiffyniad,” meddai Siân.
"Gwelsom ar y cyfryngau cymdeithasol fod rhai distyllfeydd yn Yr Alban wedi dechrau cynhyrchu hylif diheintio dwylo ac fe feddylion ni y gallem wneud yr un peth. Digwyddodd y cyfan yn gyflym iawn ond fe wnaethon ni ymchwilio i rysáit a dod o hyd i fformiwla profedig gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a dechrau cynhyrchu ar unwaith."
Roeddent am i bawb a oedd yn adnabod y ‘Gower Gin Stripes’ i deimlo sicrwydd yn y cynnyrch newydd hwn. Mae Siân yn ddysgwr Cymraeg a gan fod pob potel o Gower Gin yn ddwyieithog, cafodd Owain y syniad i enwi’r cynnyrch yn ‘GLÂN’.
Mae GLÂN wedi cael ei gyflenwi i'w pentref lleol yn ogystal ag i lawer o luoedd heddlu, ysgolion sy'n cefnogi plant gweithwyr allweddol, bydwragedd, cartrefi gofal, nyrsys ardal, meddygfeydd, ysbytai, ymatebwyr cyntaf, criwiau ambiwlans awyr a staff dosbarthu.
Ychwanegodd Siân: “Fe wnaethon ni drydar am gynnig poteli am ddim i weithwyr rheng flaen a phobl fregus yn ein cymuned ac fe aeth popeth yn wallgof!
“Rydyn ni wedi derbyn cymaint o archebion ac, a bod yn onest, mae wedi bod yn eithaf emosiynol gan fod ymatebion pobl wedi bod mor gadarnhaol a chefnogol.
“Mae wedi ein taro bod hylif diheintio dwylo nid yn unig yn ddefnyddiol i ymladd y firws ond, yn bwysicach fyth, mae'n cynnig sicrwydd ar adeg sy'n peri pryder.”