Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Bu staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda thaith feicio mewn grŵp o gampysau'r Brifysgol i'r Ganolfan Ddinesig.
Daeth beicwyr o ar draws y ddinas i ymuno â'r grŵp a arweiniwyd gan Arweinwyr Beicio a achredwyd gan Feicio Prydain.
Cynigiodd y Brifysgol ddefnydd am ddim o Feiciau Santander ar gyfer y daith feicio a oedd yn ceisio annog mwy o fenywod i feicio.
Teithiodd y beicwyr o gampysau Parc Singleton a'r Bae i'r Ganolfan Ddinesig lle gwnaethant gwrdd â'r Cynghorydd Louise Gibbard.
Meddai Jayne Cornelius, Swyddog Teithio Cynaliadwy Prifysgol Abertawe:
"Roedd hi'n hyfryd gweld cynifer o fenywod o ar draws y Brifysgol a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill gan gynnwys Cyngor Abertawe, Grŵp Beicio Breeze a Bikeability yn ein helpu i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
"Prifysgol Abertawe oedd y Cyflogwr sy'n Cefnogi Beicio Safon Aur cyntaf yng Nghymru. Rydym yn cynnal nifer o fentrau i annog ein myfyrwyr a'n staff i deithio ar feic gan gynnwys cynnal teithiau beicio a arweinir yn rheolaidd gan ein Harweinwyr Beicio a achredwyd gan Feicio Prydain. Mae beicio mewn grŵp yn ffordd wych o ddod â chymunedau ynghyd ac rydym yn edrych ymlaen at weld mwy a mwy o fenywod yn cymryd rhan mewn beicio."
Meddai'r Cynghorydd Louise Gibbard:
“Roedd hi'n fraint i mi ymuno ag aelodau o gymuned Prifysgol Abertawe ar gyfer y digwyddiad "Beicio Gyda'n Gilydd" wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
"Mae dod â phobl ynghyd yn y ffordd hon i wneud y gorau o'n harfordir anhygoel a'n cyfleusterau beicio yn syniad gwych i gynyddu ymwybyddiaeth o thema eleni sef "Pawb dros Gydraddoldeb". Mae'n ein hatgoffa er bod cynnydd da'n cael ei wneud o ran cydraddoldeb rhywedd, mae llawer i'w wneud o hyd mewn llawer o feysydd gan gynnwys chwaraeon, addysg uwch a gwleidyddiaeth."