Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Beirdd newydd yn ennill lle blaenllaw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe wrth iddi ddathlu 15 mlynedd
Wrth iddi ddathlu 15 mlynedd, mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn dwyn y bardd ei hun i gof diolch i'r lle blaenllaw sydd gan feirdd ifanc ac arbrofol ar y rhestr fer, y mae gan bob un ohonynt gyfle i ennill y Wobr gwerth £30,000.
O gasgliad Jay Bernard, Surge, sy'n ymdrin â hanes radicalaidd pobl dduon Prydain yn erbyn cefndir sgandalau Grenfell a'r Windrush i Flèche gan Mary Jean Chan, y bardd LGBTQ+ a anwyd yn Hong Kong, sy'n mynd i'r afael â themâu amlieithrwydd, hynodrwydd, dadansoddi seicolegol a hanes diwylliannol, a gwaith Stephen Sexton, y bardd o Belfast, sy’n trafod galar drwy ei gariad at Gemau Super Mario, cydnabyddir pob un ohonynt oherwydd eu casgliadau cyntaf grymus, gwleidyddol a hynod bersonol.
Ym maes ffuglen, rydym hefyd yn cydnabod tri awdur rhyngwladol talentog tu hwnt, gan gynnwys Ocean Vuong, y bardd a’r ysgrifwr Fietnamaidd-Americanaidd, sy’n cael ei glodfori am ei nofel delynegol sydd wedi ennill poblogrwydd rhyngwladol, sef On Earth We’re Briefly Gorgeous; Téa Obreht, enillydd Gwobr Orange a anwyd yn Belgrade, y mae ei nofel ddiweddaraf, Inland, yn portreadu’r freuddwyd Americanaidd yn y Gorllewin Gwyllt; a Bryan Washington, sydd wedi cyflwyno casgliad o straeon byrion cysylltiedig o’r enw Lot sy’n myfyrio’n ddwys ar Houston, ei ddinas frodorol.
Wrth drafod y chwe theitl ar y rhestr fer, a farnwyd gan banel o feirniaid gwadd, meddai’r cadeirydd, yr Athro Dai Smith CBE o Brifysgol Abertawe: “Mae’r rhestr fer ar gyfer 2020 yn amrywio rhwng meysydd barddoniaeth, ffuglen fer a’r nofel, ac mae pob darn o waith yn llwyddo i fynd i’r afael yn uniongyrchol â phryderon a phenblethau cymdeithasol a phersonol brys ein hoes. Ond yr hyn sy’n dwyn y sylw’n sydyn, er rhyddhad mawr, ymysg natur fyd-eang lethol yr argyfwng y mae’r holl ddynolryw bellach yn brwydo i ymdopi ag ef, yw’r gwerthoedd cyffredinol y mae’r tri llyfr cwbl wahanol hyn yn eu hamlygu: tosturi, empathi, dewrder rhag anobaith, dicter yn erbyn difaterwch, cariad er gwaethaf popeth. Ar adeg dywyll iawn, mae’r chwe awdur ifanc hynod dalentog hyn yn gwneud yr hyn y mae pob awdur o’r fath yn ei wneud: maent yn goleuo’r ffordd, felly mae’n rhaid i’w gwaith gael ei ddarllen er ein mwyn ni i gyd.”
Mae’r rhestr fer eleni yn cynnwys tri chasgliad o gerddi, dwy nofel ac un casgliad o straeon byrion:
- Surge - Jay Bernard (Chatto & Windus)
- Flèche - Mary Jean Chan (Faber & Faber)
- Inland - Téa Obreht (Weidenfeld & Nicolson)
- If All the World and Love were Young - Stephen Sexton (Penguin Random House)
- On Earth We’re Briefly Gorgeous - Ocean Vuong (Jonathan Cape, Vintage)
- Lot - Bryan Washington (Atlantic Books)
Mae’r Wobr sydd gwerth £30,000 yn un o’r gwobrau llenyddol sydd â’r bri mwyaf yn y DU a hi yw’r wobr lenyddol fwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc. Wedi’i dyfarnu ar gyfer y gwaith llenyddol gorau sydd wedi’i gyhoeddi yn Saesneg ac wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau, mae’r Wobr yn dathlu pob ffurf ar ffuglen ryngwladol, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.
Wrth dderbyn y wobr yn 2019 am ei nofel gyntaf In Our Mad and Furious City, meddai Guy Gunaratne: “Mae Dylan Thomas wedi golygu llawer i mi ers amser maith, mae’n awdur rydw i bob amser wedi troi ato am ysbrydoliaeth. Ac ar ôl ennill y wobr hon, mae fy meddwl yn mynd at yr holl awduron eraill, neu ddarpar awduron, sy'n ysgrifennu o le fel y dechreuais i – lle fel Neasden, rhywle roeddwn bob amser wedi ystyried ei fod yn ddibwys. Mae creu rhywbeth allan o'r byd, yr iaith, y lleisiau y cefais fy magu o'u cwmpas bob amser yn bwysig...”
Cyhoeddir yr enillydd am 7pm nos Iau 14 Mai mewn seremoni rithwir a gynhelir gan Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe.