Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Byddai tranc megaffawna morol sydd dan fygythiad yn golled fawr o ran amrywiaeth swyddogaethol
Gallai tranc rhywogaethau megaffawna morol sydd dan fygythiad arwain at golledion mwy na'r disgwyl o ran amrywiaeth swyddogaethol, yn ôl gwaith ymchwil wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe.
Mewn papur a gyhoeddwyd yn Science Advances, mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr wedi archwilio nodweddion rhywogaethau megaffawna morol er mwyn meithrin dealltwriaeth well o'r canlyniadau ecolegol posibl pe baent yn marw, gan ddefnyddio sefyllfaoedd gwahanol yn y dyfodol.
Fe'u diffinnir fel yr anifeiliaid mwyaf yn y cefnforoedd, â màs corff mwy na 45kg, ac mae enghreifftiau'n cynnwys siarcod, morfilod, morloi a chrwbanod y môr.
Mae gan y rhywogaethau hyn rolau allweddol mewn ecosystemau, gan gynnwys llyncu symiau mawr o fiomas, cludo maetholion ar draws cynefinoedd, cysylltu ecosystemau cefnfor, a newid cynefinoedd yn ffisegol.
Mae nodweddion, megis eu maint, yr hyn y maent yn ei fwyta, a pha mor bell y maent yn symud, yn penderfynu swyddogaethau ecolegol rhywogaethau. O ganlyniad, mae mesur amrywiaeth nodweddion yn galluogi gwyddonwyr i gyfrif cyfraniadau megaffawna morol at ecosystemau ac asesu'r canlyniadau posibl pe baent yn marw.
Yn gyntaf, casglodd y tîm o ymchwilwyr – wedi'u harwain gan Dr Catalina Pimiento o Brifysgol Abertawe – ddata am nodweddion rhywogaethau'r holl fegaffawna morol hysbys er mwyn deall cwmpas y swyddogaethau ecolegol y maent yn eu cyflawni mewn systemau morol.
Yna, ar ôl efelychu sefyllfaoedd pe baent yn marw yn y dyfodol a mesur effaith bosibl colli rhywogaeth ar amrywiaeth swyddogaethol, gwnaethant gyflwyno mynegai newydd (FUSE) i lywio blaenoriaethau cadwraeth.
Dangosodd y canlyniadau amrywiaeth eang o nodweddion swyddogaethol sy'n perthyn i fegaffawna morol, yn ogystal â'r ffordd y gallai'r argyfwng presennol o ran tranc rhywogaethau effeithio ar eu hamrywiaeth swyddogaethol.
Os bydd y patrymau presennol yn parhau, yn ystod y 100 mlynedd nesaf gallem golli, ar gyfartaledd, 18% o rywogaethau megaffawna morol, a fydd yn arwain at golli 11% o gwmpas swyddogaethau ecolegol. Serch hynny, pe bai pob rhywogaeth sydd dan fygythiad ar hyn o bryd yn marw, gallem golli 40% o rywogaethau a 48% o gwmpas swyddogaethau ecolegol.
Rhagwelir yr effeithir ar siarcod fwyaf, gan arwain at golli llawer mwy o gyfoeth swyddogaethol na'r hyn a ddisgwylir mewn achos amhenodol o dranc rhywogaeth.
Meddai Dr Catalina Pimiento, a arweiniodd y gwaith ymchwil o Brifysgol Abertawe: “Dangosodd ein gwaith blaenorol fod tranc megaffawna morol wedi digwydd am gyfnod anghyffredin o ddwys wrth i lefelau'r môr amrywio filiynau o flynyddoedd yn ôl. Mae ein gwaith newydd yn dangos bod dylanwad y ddynolryw heddiw yn peri bygythiad mwy byth i'w rolau ecolegol unigryw ac amrywiol.”
O ystyried yr argyfwng tranc rhywogaethau byd-eang, mae'n bwysig gofyn i ba raddau y mae gan natur system wrth gefn. Os bydd rhywogaeth yn marw, a fydd rhywogaethau eraill a all gyflawni rôl ecolegol debyg?
Ychwanega Dr John Griffin, un o gyd-awduron yr astudiaeth o Brifysgol Abertawe: “Mae ein canlyniadau'n dangos bod yr afreidioldeb honedig hwn yn gyfyngedig iawn ymysg yr anifeiliaid mwyaf yn y cefnforoedd – hyd yn oed pan fyddwch yn cynnwys grwpiau sy'n amrywio o famaliaid i folysgiaid. Os byddwn yn colli rhywogaethau, byddwn yn colli swyddogaethau ecolegol unigryw. Dyma rybudd bod angen i ni weithredu nawr i leihau pwysau cynyddol y ddynolryw ar fegaffawna morol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, gan helpu i adfer poblogaethau ar yr un pryd.”
Mae FUSE (swyddogaethol unigryw, arbenigol ac mewn perygl), mesurydd cadwraeth sydd newydd ei gyflwyno, yn nodi rhywogaethau dan fygythiad sy'n arbennig o bwysig at ddibenion amrywiaeth swyddogaethol. Mae'r rhywogaethau FUSE sydd o'r pwys mwyaf yn cynnwys môr-grwbanod gwyrdd, morfuchod a dyfrgwn y môr. Bydd canolbwyntio o'r newydd ar y rhain, a rhywogaethau FUSE eraill sydd o bwys mawr, yn helpu i sicrhau y bydd y swyddogaethau ecolegol a ddarperir gan fegaffawna morol yn parhau.
Yn ogystal â Pimiento a Griffin, mae'r awduron eraill yn cynnwys Fabien Leprieur (Université de Montpellier), Daniele Silvestro (Prifysgol Fribourg), Jonathan Lefcheck (Canolfan Ymchwil Amgylcheddol Smithsonian), Camille Albouy (IFREMER, Ffrainc), Doug Rasher (Labordy Bigelow ar gyfer Gwyddorau Eigion), Matt Davis (Amgueddfa Astudiaethau Natur Sir Los Angeles) a Jens-Christian Svenning (Prifysgol Aarhus).