Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Ymchwilwyr yn chwilio am blant i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein ar iechyd a llesiant
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gofyn i blant 8-12 oed gymryd rhan mewn holiadur ar-lein i ddeall mwy am eu hiechyd a'u llesiant yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o Rwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN, sydd wedi bod yn casglu safbwyntiau a phrofiadau dros 12,000 o blant ysgol gynradd er mwyn gweithio gydag ysgolion i wella iechyd ac addysg.
Mae HAPPEN yn un o brosiectau ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, sy'n brosiect ledled Cymru a reolir gan Brifysgol Abertawe.
Caiff y Ganolfan ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae'n dwyn ynghyd tîm o ymchwilwyr, ystadegwyr a dadansoddwyr data sydd ymysg y gorau yn y byd o brifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall, gwerthuso a llywio gwelliannau i iechyd y boblogaeth.
Fel rhwydwaith aelodau am ddim, mae HAPPEN yn ymwneud â mwy na 300 o ysgolion cynradd ledled Cymru ar hyn o bryd, gan ddwyn ynghyd addysg, iechyd ac ymchwil yn unol â'r cwricwlwm newydd ar gyfer iechyd a llesiant. Mae tîm ymchwil HAPPEN yn cynnal arolygon rheolaidd o ysgolion i gael gwell dealltwriaeth o iechyd corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol disgyblion.
Bydd yr arolwg newydd yn holi am:
- Gweithgarwch corfforol
- Llesiant
- Parhau i fod â chysylltiad â ffrindiau, teulu a’r ysgol
Dywedodd Michaela James, Arweinydd Ymchwil HAPPEN, “Yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni’n credu ei bod yn bwysig deall sut mae newidiadau yn ein trefn ddyddiol arferol yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl ifanc yng Nghymru.
“Gall yr arolwg gael ei wneud ar-lein gartref ac mae ond yn cymryd ychydig o funudau i'w gwblhau. Bydd cymryd rhan yn ein helpu i weld beth yw profiadau plant yn y cyfnod hwn o aros gartref a COVID-19.”
Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: “Rydym yn bwriadu casglu gwybodaeth a fydd yn ein helpu i weld sut mae plant yn teimlo am aros gartref gyda'u teulu a sut bydd hyn yn effeithio ar iechyd, llesiant ac addysg plant yn y dyfodol.”
Darllenwch a chwblhewch yr arolwg.