Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Astudiaeth newydd yn archwilio'r risgiau sy'n wynebu staff meddygol rheng flaen yn ystod y pandemig
Mae clinigydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe ymysg grŵp o arbenigwyr sy'n galw am gyflwyno asesiad risg ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ar y rheng flaen sy'n trin cleifion sy'n dioddef o coronafeirws.
Archwiliodd eu hastudiaeth – Haenu'r risgiau i weithwyr gofal iechyd yn ystod pandemig COVID-19 – ddemograffeg y rhai sydd wedi mynd i'r ysbyty ac wedi marw yn y pen draw oherwydd COVID-19 o'u cymharu â'r boblogaeth gyffredinol.
Mae ei hawduron, sef grŵp o academyddion clinigol a chlinigwyr sy'n aelodau o Gymdeithas Feddygol Prydain, yn cynnwys Dr Angharad Davies, athro cysylltiol clinigol mewn microbioleg feddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Meddai Dr Davies: “Yn ôl y ffigurau, mae gweithwyr gofal iechyd mewn mwy o berygl o gael COVID-19. Mae'n hollbwysig i systemau iechyd ddiogelu iechyd a bywydau eu staff, yn enwedig y rhai sydd ar y rheng flaen.”
Mae'r ymchwil ar ffurf adroddiad rhagarweiniol a gyhoeddwyd ar medRxiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ynghylch materion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn.
Archwiliodd y tîm ddata a gasglwyd yn ddiweddar er mwyn datblygu adnodd haenu risgiau y gellir ei ddefnyddio wrth glustnodi dyletswyddau gofal rheng flaen i weithwyr iechyd proffesiynol yn ystod y pandemig.
Yn ôl yr awduron, efallai na fydd yn bosib dileu'r risg i weithwyr iechyd sy'n deillio o gysylltiadau cynyddol, ond maent yn awgrymu y gallai'r adnodd helpu i adnabod yr unigolion hynny sy'n wynebu'r perygl mwyaf o gael canlyniad andwyol o COVID-19 er mwyn clustnodi rolau â'r cysylltiad lleiaf.
Mae'r papur yn nodi bod staff meddygol yn wynebu tri math o risg:
• Demograffeg – oedran, rhyw ac ethnigrwydd;
• Cydafiacheddau sydd wedi cynyddu yn ystod bywyd;
• Eu gwybodaeth am gyfarpar diogelu personol, eu gallu i gael gafael arno a'u defnydd ohono.
Mae'n ychwanegu bod ffactorau ffisiolegol sydd wedi effeithio ar y system imiwnedd a dylanwadau o'r gweithle, megis risgiau amgylcheddol, argaeledd hyfforddiant ar gyfarpar diogelu personol a'r hyder i fynegi pryderon, yn gallu chwarae rhan hefyd.
Meddai Dr Davies: “Gall sgôr asesiad risg helpu i lywio'r broses o glustnodi dyletswyddau.
“Dylid gwahardd unigolion sy’n wynebu’r perygl mwyaf rhag mynd i ardaloedd clinigol i gleifion a dylid ystyried yn ofalus gysylltiadau'r rhai sydd mewn perygl canolraddol ag ardaloedd rheng flaen, a dyletswyddau sy'n ymwneud â chysylltiad agos â chleifion megis ENT, offthalmoleg a deintyddiaeth.”
I gloi, meddai'r awduron: “Mae angen i bob doctor gael asesiad risg ffurfiol ar frys ac ar unwaith.
“Yn ogystal, mae angen cael cydsyniad priodol, manwl gan yr holl feddygon y gofynnir iddynt weithio mewn ardaloedd i gleifion, er mwyn iddynt hwy hefyd ddeall y risgiau iddynt. Dylai pob meddyg wisgo cyfarpar diogelu personol i gymryd rhan mewn unrhyw archwiliad neu ymchwiliad clinigol ar y sail y gall cleifion sydd wedi'u heintio fod yn asymptomatig.”
Mae gweithwyr meddygol proffesiynol ar y rheng flaen eisoes wedi croesawu'r adnodd haenu risgiau ac mae rhai sefydliadau yn y GIG yn seilio argymhellion arno. Mae arweinwyr iechyd ledled y DU wrthi'n ystyried yr adnodd.