Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Gweithwyr tai ar y rheng flaen, gwasanaethau cymorth i'r digartref a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, y mae llawer ohonynt yn agored i niwed, yw'r grwpiau diweddaraf i ddefnyddio hylif diheintio dwylo a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae labordy technoleg solar wedi newid dros dro i gynhyrchu 5,000 litr yr wythnos yn ystod argyfwng COVID-19.
Y nod yw amddiffyn staff tai a chadw'r bobl y maent yn gweithio gyda hwy yn ddiogel.
Mae'r hylif diheintio, sy'n bodloni'r safon a bennir gan Sefydliad Iechyd y Byd, eisoes ar waith yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn lleol. Nawr, gan weithio gyda Chartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth Cymru, a Gofal a Thrwsio Cymru, mae tîm y Brifysgol yn cyflenwi 2,000 o boteli pum litr i 35 o sefydliadau tai ledled Cymru.
Defnyddir yr hylif diheintio mewn lleoedd megis cartrefi gofal, llety gofal ychwanegol, hosteli i'r digartref ac yng nghartrefi preswylwyr sy'n agored i niwed.
Mae gofalwyr a gweithwyr cymorth tai, yn ogystal â thimau cynnal a chadw sy'n gwneud gwaith hanfodol a brys yng nghartrefi tenantiaid, yn defnyddio'r hylif diheintio i gadw staff a defnyddwyr gwasanaethau'n ddiogel.
Mae tîm y Brifysgol sy'n cynhyrchu'r hylif diheintio yn cynnwys dros 30 o wirfoddolwyr o dri Choleg ac Ysgol. Arweinir y gweithgynhyrchu gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, sy'n arbenigo mewn ymchwil solar a datblygu adeiladau sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni solar eu hunain.
Meddai Joni Castle-Canavan, Dirprwy Reolwr Cartref Gofal St Isan Hafod yng Nghaerdydd:
“Mae meddu ar gyflenwad o hylif diheintio yn ein gwasanaeth gofal wedi rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch i'n staff a'n preswylwyr.
“Rydym mor ddiolchgar bod cyflenwad cyson ar gael i ni fel y gall pawb yn ein cartref ddiheintio eu dwylo mewn safle golchi dwylo yn ogystal ag ar adegau mwy rheolaidd. Er enghraifft, mae hylif diheintio dwylo ar bob desg i aelodau o staff ei ddefnyddio cyn ac ar ôl defnyddio gweithfannau cyffredin, ac i breswylwyr ei ddefnyddio cyn ac ar ôl prydau bwyd a gweithgareddau.
“Mae'n bwysig iawn bod pawb yn gallu cael gafael ar hylif diheintio ochr yn ochr â'u harferion hylendid ardderchog ac mae hyn wedi helpu i dawelu nerfau ar yr adeg hon.”
Meddai Lewis Roberts, trydanwr Cymoedd i'r Arfordir:
“Mae Cymoedd i'r Arfordir yn ffodus bod gennym swm mawr o hylif diheintio dwylo ac rydym yn falch o gefnogi pobl eraill drwy gyflenwi'r hylif iddynt drwy ein hyb.
“Mae wedi bod yn hollbwysig i ni, gan helpu i dawelu meddyliau cydweithwyr a chwsmeriaid pan wneir gwaith trwsio brys yng nghartrefi ein cwsmeriaid.”
Meddai Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru, a Chris Jones, Prif Weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru:
“Mae'r rhai hynny sy'n rhoi gofal a chymorth mewn gwasanaethau digartrefedd a thai wedi wynebu heriau difrifol yn ystod argyfwng COVID-19. Er gwaethaf prinder staff a chyfarpar diogelu personol digonol, mae'r gwasanaethau hyn yn gweithio'n galed dros ben i roi gofal a chymorth diogel o safon dan amgylchiadau anodd.
“Rydym wedi gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe i gyflenwi hylif diheintio dwylo i gymdeithasau tai yng Nghymru, yn ogystal ag aelodau Cymorth Cymru ac Asiantaethau Gofal a Thrwsio. Dros yr wythnosau i ddod, rydym yn disgwyl archebu a dosbarthu bron 2,000 o boteli pum litr i 35 o sefydliadau ledled Cymru. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cadw aelodau o staff a'r bobl rydym yn eu cefnogi yn ddiogel, wrth i ni barhau i weithio mewn cartrefi a chymunedau i gefnogi'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf.”
Meddai Dr Iain Robertson o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe:
“Rydym wedi gallu ymaddasu'n gyflym er mwyn cefnogi staff rheng flaen a phobl sy'n agored i niwed. Gyda chymorth sawl cwmni lleol, gall Prifysgol Abertawe gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd yr wythnos erbyn hyn.
“Rydym yn falch o weld bod hyn yn helpu i gadw staff tai a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn ddiogel.”