Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae’r Athro Daniel G. Williams o Adran Saesneg Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, wedi cadeirio sesiwn drafod ddigidol ar y cysylltiadau rhwng De Asia a Chymru. Roedd dros 150 o gynrychiolwyr o bob rhan o’r byd yn mynychu trwy ‘zoom’.
Mae'r digwyddiad yn rhan o gyfres o seminarau sydd yn dwyn yr enw 'Testun a Threfedigaeth: tra-fodaethau (ôl-)drefedigaethol rhwng Cymru a De Asia' a drefnwyd gan Dr Zehra Jumabhoy o Sefydliad Celf Courtauld Llundain, Charlotte Thomas a Katy Fear o Oriel Gelf Glynn Vivian, a'r Athro Williams.
Fe'i ariennir gan Rwydwaith Celf Prydain sy'n cael ei arwain a'i gefnogi gan Tate a Chanolfan Astudiaethau Paul Mellon mewn Celf Brydeinig, gydag arian cyhoeddus ychwanegol yn cael ei ddarparu gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.
Yn dilyn yr achosion o Coronavirus ni allai’r digwyddiadau gymryd rhan yn oriel Glynn Vivian fel y cynlluniwyd ac mae fersiwn gryno o’r rhaglen yn cael ei chynnal ar-lein trwy gyfres o seminarau.
Gwerthodd llawer o’r ‘tocynnau’ ar gyfer y gyfres o bedair sesiwn seminar - i academyddion, cura-duron, artistiaid a haneswyr o genhedloedd y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, ac Asia.
Mae’r Athro Williams wedi cadeirio panel ar 21 Mai o'r enw “Cysylltiadau Diwylliannol”, yn ystyried y berthynas hir rhwng De Asia a Chymru, gyda Zehra Jumabhoy, yr Athro Gauri Viswanathan o Brifysgol Columbia, Efrog Newydd, a'r hanesydd diwylliannol blaenllaw o Gymru, Dr. Gwyneth Tyson Roberts.
Dywedodd yr Athro Daniel G. Williams:
“Tra bod Cymru’n parhau’n synhwyrol i fod dan glo, mae’r gyfres hon o bedwar seminar zoom - a drefnwyd yn sydyn gan y tîm yn Oriel Glynn Vivian - yn dod â’r byd i Abertawe.
Mae’r gyfres ‘Imperial Subjects’ wedi canolbwyntio’n bennaf ar gelf hyd yn hyn, ond rydym yn troi ein sylw at gysylltiadau diwylliannol ehangach yn y sesiwn olaf hon, gan archwilio gwladychiaeth a chenedlaetholdeb, yr Ymerodraeth a’r gwrthwynebiad iddi, empathi diwylliannol a hiliaeth.’
Mae'r gyfres seminarau yn ragflas i arddangosfa fawr a fydd yn cynnwys artistiaid cyfoes o Gymru a De Asia, wedi'i churadu gan Katy Freer o’r Glynn Vivian a Zehra Jumabhoy, a chynhadledd ryngwladol a fydd yn cynnwys cyfraniadau gan yr Athrawon Mike Franklin, M. Wynn Thomas a Kirsti Bohata o Brifysgol Abertawe ymysg eraill.