Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae gwas sifil sydd wedi ymddeol yn dathlu ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe – 50 mlynedd yn hwyrach na'r disgwyl.
Mae Julia Clark, a fydd yn 70 oed ym mis Rhagfyr, wedi ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.
Ar ôl colli'r cyfle i fynd i'r brifysgol pan adawodd yr ysgol, gwnaeth Julia fwynhau gyrfa hir yn gweithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn – ond nid yw ei brwdfrydedd dros ddysgu byth wedi pylu.
“Tuag at ddiwedd fy 30au, pan oeddwn yn briod ac roedd gennyf ddau blentyn, es i i ddosbarthiadau nos i astudio seicoleg Safon Uwch, gan ailgynnau fy awydd i fynd i'r brifysgol,” meddai Julia, sy'n byw yn Llangennech.
“Fodd bynnag, byddai wedi arwain at symud i Gaerdydd ac roedd hynny'n amhosib oherwydd fy sefyllfa gartref. Felly, unwaith eto, rhoddais i'r gorau i unrhyw gynlluniau i gael gradd.”
Ond, bedair blynedd yn ôl, dechreuodd breuddwyd Julia gael ei wireddu.
“Gwnes i gynnig i astudio Seicoleg a Throseddeg yn Abertawe, ond roeddwn yn aflwyddiannus gan fod pobl yn credu bod gormod o fwlch ers i mi fod mewn addysg amser llawn,” meddai. “Torrodd fy nghalon.
“Ond, bythefnos yn ddiweddarach, cefais e-bost yn dweud fy mod wedi cael fy nerbyn i astudio gradd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. I ddechrau, roeddwn yn meddwl bod rhywun yn chwarae cast arnaf cyn i mi gredu'r peth – roeddwn mor hapus.”
Dechreuodd Julia baratoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol fel myfyriwr aeddfed ac aeth i ddiwrnod agored ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017.
Pan ddaeth yr amser iddi gofrestru, cydiodd o ddifrif yn ei hastudiaethau a phob agwedd ar fywyd yn y brifysgol.
“Pan fyddwch yn aros 50 mlynedd am rywbeth, ni ddylech wastraffu'r cyfle pan ddaw o'r diwedd,” meddai Julia.
“Rwyf wedi dwlu ar bob munud o'm hamser fel myfyriwr israddedig. Mae'r modiwlau wedi newid fy marn am bron popeth ac erbyn hyn mae gennyf fwy o ymwybyddiaeth o faterion gwleidyddol roeddwn wedi'u diystyru o bosib yn y gorffennol.
“Roeddwn yn nerfus iawn ar y dechrau gan fy mod yn ymwybodol iawn o'r ffaith fy mod yn hŷn na phawb arall. Ond nid oedd agwedd yr un myfyriwr na darlithydd yn negyddol ynghylch fy oedran ac, ar ôl goresgyn fy nerfusrwydd cychwynnol, ymroddais yn llwyr i fywyd myfyriwr – gan gynnwys hyd yn oed tatŵau a lliwio fy ngwallt yn borffor!”
Bydd Julia bellach yn dychwelyd i'r Brifysgol yn yr hydref i ddechrau gradd meistr ac mae'n gobeithio gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y dyfodol.
“Byddwn yn annog unrhyw fyfyriwr aeddfed i ddilyn ei freuddwydion,” meddai. “Mae wedi bod yn heriol ond yn werthfawr.
“Mae cyllid ar gael ac mae pobl dros 60 oed yn gymwys i gael grant blynyddol, felly nid oes unrhyw bryderon ariannol sy'n gysylltiedig â chael gradd fel myfyriwr aeddfed.”
Ychwanegodd Deborah Jones, un o ddarlithwyr Julia: “Mae Julia wedi bod yn ysbrydoliaeth go iawn. Dechreuodd ei gradd gydag ymrwymiad cadarn, ac roedd yn amlwg ar ôl dim ond ychydig wythnosau o addysgu y byddai Julia yn ffynnu yn yr amgylchedd addysgol.
“Nid yw Julia byth wedi colli dosbarth ac rydym wedi cael y fraint o weld ei hyder yn cynyddu. Rydym yn falch ei bod wedi penderfynu aros yn y Brifysgol ac astudio am radd meistr.”