Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio i helpu'r gwasanaethau brys yn ystod pandemig Covid-19.
Mae'r myfyriwr meddygaeth Robert Jones bellach yn gweithio fel cynorthwy-ydd gofal iechyd yn Ysbyty Treforys ac mae Samuel Murkin, sy'n astudio am radd meistr mewn peirianneg fecanyddol, yn helpu i rannu negeseuon hollbwysig ar ran Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.
Mae Robert, y mae ei deulu'n hanu o Sir Gâr yn wreiddiol, yn gweithio yn uned argyfwng plant Ysbyty Treforys lle mae wedi gallu defnyddio'r sgiliau a fagodd yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Meddai: “Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol a buddiol iawn. Nid oeddwn erioed wedi mynd allan ar y wardiau mewn gwirionedd gan fod y pandemig wedi achosi i'n lleoliad gwaith clinigol cyntaf gael ei ganslo, felly roedd y dyddiau cyntaf ar y ward yn brofiad dysgu go iawn! Ond mae'r staff wedi bod yn anhygoel ac maent wedi rhoi cymaint o help ag y bo modd.”
Ychwanegodd Robert mai rhan orau'r rôl oedd gweld y newid yn y plant yn dilyn eu triniaeth. “Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i allu gofalu am blant a'u teuluoedd ar eu hadegau gwannaf yn aml.”
Mae'r ddau ohonynt wedi bod yn aelodau brwd o garfan Abertawe yn Uned Llynges Frenhinol Prifysgolion Cymru – roedd Samuel yn Ganol-longwr Uwch wrth iddo gwblhau ei radd israddedig eleni ac mae Robert yn Gadét Swyddog Gweithredol ar hyn o bryd.
Meddai cynrychiolydd addysg filwrol Prifysgol Abertawe, Peter Neville: “Mae ymdrechion a gwaith caled y ddau gadét myfyriwr hyn yn dangos ethos y Llynges Frenhinol: safonau personol a phroffesiynol uchel a'r parodrwydd i wasanaethu. Mae eu gweithredoedd yn destun clod iddynt hwy eu hunain, eu hyfforddiant ym Mhrifysgol Abertawe ac, wrth gwrs, Uned Llynges Frenhinol Prifysgolion Cymru.”
Meddai Robert: “Ymunais â'r uned i brofi bywyd yn y Llynges Frenhinol a mwynhau'r amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd dysgu a gynigir gan Uned Llynges Frenhinol Prifysgolion Cymru. O ganlyniad i'm cyfnod cadarnhaol a phleserus yn Uned Llynges Frenhinol Prifysgolion Cymru, rwy'n ystyried dilyn gyrfa yn y Llynges Frenhinol fel swyddog meddygol.”
Fel Robert, dywedodd Samuel ei fod wedi cael ei ysgogi i wneud rhywbeth i helpu yn ystod y pandemig a'i fod yn falch o fod yn llysgennad cymuned ddigidol ar ran Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.
Meddai Samuel: “Mae fy rôl yn ymwneud â chyfathrebu negeseuon hollbwysig gan yr heddlu i'm cymuned leol, drwy grwpiau sydd eisoes wedi cael eu sefydlu ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Rwy'n gobeithio ymuno â'r heddlu yn y dyfodol, felly mae'r profiad yn ddefnyddiol iawn i mi o safbwynt personol, ond roeddwn hefyd yn awyddus i wneud rhywbeth i helpu fy nghymuned a'n heddlu ar adeg mor anodd.”