Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Delweddau pelydr X 3D yn datgelu cyfrinachau bywydau a marwolaethau anifeiliaid yn yr hen Aifft
Mae ymchwilwyr wedi dadlapio a dadansoddi tri anifail mymïaidd o'r hen Aifft yn ddigidol, gan ddefnyddio sganiau 3D eglur iawn sy'n rhoi manylder digynsail am fywydau'r anifeiliaid – a'u marwolaethau – dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r tri anifail – neidr, aderyn a chath – yn rhan o'r casgliad a gedwir gan y Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd ymchwiliadau blaenorol wedi nodi pa anifeiliaid oeddent, ond ychydig iawn oedd yn hysbys am yr hyn a oedd y tu mewn i'r mymïod.
Nawr, diolch i microsganiau CT pelydr-X, sy'n creu delweddau 3D sydd 100 o weithiau'n fwy eglur na sgan CT meddygol, gellir dadansoddi gweddillion yr anifeiliaid mewn manylder eithriadol, gan gynnwys eu hesgyrn a'u dannedd lleiaf.
Lluniau a fideo: tri anifail mymïaidd
Roedd y tîm, dan arweiniad yr Athro Richard Johnston o Brifysgol Abertawe, yn cynnwys arbenigwyr o'r Ganolfan Eifftaidd ac o brifysgolion Caerdydd a Chaerlŷr.
Roedd pobl yr hen Aifft yn mymïo anifeiliaid yn ogystal â phobl, gan gynnwys cathod, ibisiaid, hebogau, nadroedd, crocodeilod a chŵn. Weithiau, byddent yn cael eu claddu ochr yn ochr â'u perchennog neu fel cyflenwad bwyd i'r byd a ddaw. Ond offrymiadau oedd y math mwyaf cyffredin o anifeiliaid mymïaidd. Roedd ymwelwyr yn mynd â hwy at demlau i'w cynnig i'r duwiau, fel modd o gyfathrebu â hwy.
Byddai'r anifeiliaid yn cael eu magu neu eu dal gan geidwaid cyn cael eu lladd a'u hembalmio gan offeiriaid temlau. Credir bod cynifer o 70 miliwn o anifeiliaid mymïaidd wedi cael eu creu yn y ffordd hon.
Er bod dulliau eraill o sganio hen arteffactau heb eu difrodi ar gael, nid ydynt yn berffaith. Dim ond delweddau 2D sy'n deillio o belydr-X arferol. Mae sganiau CT meddygol yn creu delweddau 3D, ond nid ydynt yn eglur iawn.
Mae microsganiau CT, ar y llaw arall, yn creu delweddau 3D eglur iawn. Defnyddir y dull hwn yn helaeth ym maes gwyddor deunyddiau er mwyn delweddu adeileddau mewnol ar raddfa ficro ac mae'n cynnwys creu cyfaint 3D (sef 'tomogram') o lawer o dafluniadau neu radiograffau unigol. Yna gellir argraffu'r siâp 3D neu ei gyflwyno ar ffurf rithwir, gan roi cyfle i'w ddadansoddi ymhellach.
Gan ddefnyddio cyfarpar CT micro yng nghyfleuster Uwch-ddelweddu Deunyddiau (AIM) Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, daeth y tîm i'r casgliadau canlynol:
• Roedd y gath yn un fach a oedd yn llai na phum mis oed, yn ôl tystiolaeth y dannedd a oedd heb dyfu a guddiwyd yn asgwrn yr ên.
• Roedd y ffaith bod fertebrâu ar wahân yn awgrymu ei bod wedi cael ei thagu o bosib.
• Mae'r aderyn yn ymdebygu fwyaf i gudyll coch Ewrasiaidd; mae'r microsganiau CT yn golygu bod modd mesur yr esgyrn, gan ei gwneud yn bosib nodi'r rhywogaeth yn gywir.
• Nodwyd bod y neidr yn gobra Eifftaidd llencynnaidd mymïaidd (Naja haje).
• Mae tystiolaeth y difrod i'r aren yn dangos nad oedd y neidr wedi cael digon o ddŵr yn ystod ei bywyd yn ôl pob tebyg, gan ddatblygu math o gymalwst.
• Mae dadansoddi'r toresgyrn yn dangos ei bod wedi cael ei lladd yn y diwedd gan weithred chwipio, cyn cael triniaeth o bosib i agor y geg wrth iddi gael ei mymïo. Os yw hyn yn wir, dyma'r dystiolaeth gyntaf o ddefnyddio ymddygiad defodol cymhleth yn achos neidr.
Meddai'r Athro Richard Johnston o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, a fu'n arwain y gwaith ymchwil:
“Gan ddefnyddio microsganiau CT, gallwn i bob pwrpas gynnal archwiliad post-mortem ar yr anifeiliaid hyn, fwy na 2,000 o flynyddoedd ar ôl iddynt farw yn yr hen Aifft.
Gan fod y sganiau hyn fwy na 100 o weithiau'n fwy eglur na sgan CT meddygol, gwnaethom lwyddo i gasglu tystiolaeth newydd o'r ffordd y byddent wedi byw a marw, gan ddatgelu eu hamgylchiadau byw, ac achosion marwolaeth posib.
Dyma'r technegau delweddu gwyddonol diweddaraf. Mae ein gwaith yn dangos sut gall adnoddau technolegol cyfoes daflu goleuni newydd ar y gorffennol pell.”
Meddai Dr Carolyn Graves-Brown o'r Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe:
“Mae'r cydweithrediad hwn rhwng peirianwyr, archeolegwyr, biolegwyr ac Eifftolegwyr yn dangos bod cydweithio rhwng ymchwilwyr o bynciau gwahanol yn werthfawr.
Mae ein canfyddiadau wedi rhoi dealltwriaeth newydd o faterion megis mymïo anifeiliaid, crefydd a pherthnasoedd rhwng pobl ac anifeiliaid yn yr hen Aifft.”
Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn Scientific Reports.
Mae'r awduron yn cydnabod â phob parch y bobl yn yr hen Aifft a greodd yr arteffactau hyn.