Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae'r awdur plant hynod boblogaidd David Walliams wedi cefnogi cystadleuaeth i blant a gynhelir i nodi canmlwyddiant Prifysgol Abertawe.
Mae'r digrifwr a'r llenor wedi anfon neges arbennig i ddymuno'n dda i bawb sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth, sef Prifysgol y Dyfodol.
Mae'r gystadleuaeth yn gofyn i blant rannu eu gweledigaeth ynghylch pa olwg fydd ar Brifysgol Abertawe ymhen 100 mlynedd arall.
Ceir tri chategori:
Gwahoddir disgyblion Cyfnod Allweddol 1 (Blynyddoedd 1 a 2) i dynnu llun o'r Brifysgol ymhen 100 mlynedd.
Mae angen i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6) lunio stori fer neu gerdd sy'n disgrifio eu syniad ar gyfer Prifysgol y Dyfodol, mewn hyd at 100 o eiriau.
Yr her i ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 3 a 4 (Blynyddoedd 7, 8, 9, 10 ac 11) yw ystyried sut gallent ddod â'r dyfodol yn fyw drwy fideo, animeiddiad neu fodel cyfrifiadurol.
Daw llun buddugol adran Cyfnod Allweddol 1 yn fyw mewn ffilm animeiddiedig fer a fydd yn cynnwys stori fuddugol cystadleuaeth Cyfnod Allweddol 2. Bydd y fideo hon ar gael ochr yn ochr â gwaith enillwyr adran Cyfnodau Allweddol 3 a 4 ar wefan y Brifysgol fel rhan o ddathliadau ei chanmlwyddiant.
Dywedodd David, sydd wedi gwerthu mwy na 35 miliwn o lyfrau ledled y byd, ei fod yn falch o gael cyfrannu at y gystadleuaeth.
Mewn neges a gafodd ei recordio'n arbennig, meddai: “Rwyf am eich annog chi i gyd i ysgrifennu. Pob lwc i bawb!”
Nid yw'n rhy hwyr i gymryd rhan yn y gystadleuaeth – ewch ar-lein i gael syniadau a fydd yn helpu i'ch ysbrydoli. Ond cofiwch fod yn rhaid i bob cynnig ddod i law erbyn 4 Medi 2020.