Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cyllid Llywodraeth Cymru i ESRI ar gyfer cyfarpar diogelu personol y genhedlaeth nesaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe at ddiben datblygu ymagwedd unigryw at gyfarpar diogelu personol y genhedlaeth nesaf fel rhan o'r frwydr yn erbyn feirysau. 

Nod y cyfarpar newydd yw diogelu pobl rhag feirysau megis SARS-CoV-2, a drosglwyddir yn bennaf drwy fewnadlu defnynnau anadlol. Mae'r prosiect yn mabwysiadu dull gweithredu a ddefnyddiwyd o'r blaen ar ran Llynges yr Unol Daleithiau gan gyfarwyddwr ESRI, yr Athro Andrew Barron.

“Roeddem wedi dangos y gall deunyddiau gorhydroffilig ollwng defnynnau erosol ar ffabrig,” meddai. Mae deunydd gorhydroffilig yn cael ei atynnu i ddŵr megis y mae'r ongl y mae defnyn o ddŵr yn cysylltu â'r arwyneb yn hafal i sero gradd. Cyfunodd grŵp ymchwil yr Athro Barron yr elfennau hyn yn un driniaeth unigol ar ffabrigau a lwyddodd i ddal lefelau uchel o feirysau anadlog.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Sêr Cymru ar gyfer mynd i'r afael â COVID-19. Y nod yw addasu'r dull gollwng a dal i ffabrigau rhad heb eu gwehyddu er mwyn osgoi defnyddio'r hidlen wedi'i thoddi a'i chwythu a ddefnyddir ar gyfer masgiau FFP3 ar hyn o bryd. Mae'r hidlen honno'n ddrud ac mae'n anodd cael gafael arni.

Er y cynigiwyd bod gwisgo masgiau'n elfen allweddol o'r broses o fynd i'r afael â phandemig COVID-19, ni ddylunnir hyd yn oed y masgiau gorau at ddiben atal feirysau llai na micron rhag cael eu trosglwyddo.

Mae'n anodd dal feirysau mewn ffabrig a ddylunnir at ddiben anadlu gan fod yn rhaid i'r hidlen ganiatáu i aer gael ei drosglwyddo. Mae'n anodd dal feirws oherwydd ei wasgariad mewn defnynnau dŵr o faint micron (erosolau), a all fynd drwy ffabrig i mewn i'r system anadlu.

Yn ôl ESRI, rhaid cyflawni dau beth: yn gyntaf, gollwng y defnyn dŵr ar ffabrig neu arwyneb hidlo anadladwy, ac yn ail, atal y gronyn feirysol actif rhag symud.

Cyfarwyddir gwaith dylunio a chynhyrchu deunyddiau'r prosiect hwn yn ESRI mewn partneriaeth â Dr Shirin Alexander, a gwneir y profion feirysol mewn partneriaeth â Dr Paola Salvatore a Dr Stefano Guido yn sefydliad ymchwil CEINGE-Biotecnologie Avanzate yn Napoli. Ar ben hynny, bydd Andrew Turner o Madano Ltd yn cyfrannu at ddeall yr effaith a'r ffordd y mesurir llwyddiant.

Ychwanegodd yr Athro Peter Halligan, Prif Gynghorydd Gwyddonol a phennaeth rhaglen Sêr Cymru: “Wrth i ni i gyd brofi adeg mor anodd, mae'n galonogol gweld ymateb cadarnhaol ein prifysgolion yng Nghymru i alw Sêr Cymru am ymchwil a'r ymdrech barhaus i gynnal safonau uchel o ragoriaeth ymchwil, sydd hyd yn oed yn bwysicach yn yr ymdrechion i fynd i'r afael â COVID-19 a'r holl oblygiadau sy'n gysylltiedig ag ef.”

Ychwanegodd Andrew Turner, Uwch-gyfarwyddwr Cyfrifon Madano: “Wrth i ni ddod i delerau â'r pandemig, mae'n hollbwysig bod cymunedau yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach yn deall sut gall y deunyddiau gwahanol a ddefnyddir newid cyfraddau trosglwyddo'r feirws.”

Cynhelir y prosiect mewn partneriaeth â SALTS Healthcare a phartneriaid technoleg y cwmni, sef MiDAS Green Innovations Ltd.

“Mae'r Athro Andrew Barron a'r tîm yn ESRI yn arloeswyr o'r radd flaenaf ym maes gwyddor deunyddiau ac rydym yn hynod falch o'n perthynas â'r grŵp,” meddai Iain Powner, Pennaeth Strategol (Technegol) SALTS Healthcare.

 

Rhannu'r stori