Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Arolwg newydd yn datgelu maint effaith Covid-19 ar iechyd meddwl yng Nghymru
Mae Cymru’n wynebu ton o broblemau iechyd meddwl yn sgil Covid-19, gydag oedolion iau, menywod a phobl o ardaloedd difreintiedig yn dioddef fwyaf.
Dyna’r rhybudd sydd wedi’i gynnwys mewn ymchwil newydd, dan arweiniad yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, a’r Athro Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd sy’n archwilio effaith y pandemig ar lesiant meddyliol poblogaeth Cymru.
Dengys canfyddiadau cychwynnol yr arolwg bod tua hanner y 13,000 o gyfranogwyr wedi dangos diflastod seicolegol arwyddocaol yn glinigol, gyda thua 20 y cant yn dioddef effeithiau difrifol.
Rhoddwyd eu hymatebion yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf, pan welwyd bod y pandemig yn cael effaith ddramatig ar lesiant seicolegol.
Dywedodd yr Athro Gray, o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Gwnaethom archwilio llesiant seicolegol a chyffredinrwydd diflastod meddwl arwyddocaol yn glinigol mewn sampl fawr 11 i 16 wythnos mewn i’r cyfnod clo a chymharu hyn â data ar sail poblogaeth a gasglwyd cyn-Covid- 19. Dangosodd ostyngiad mawr mewn llesiant o lefelau cyn-Covid.”
Dywedodd fod yr effeithiau yng Nghymru - a thrwy oblygiad y rhai yn y DU a thu hwnt - yn fwy nag awgrymwyd gan yr astudiaethau blaenorol.
“Mae'n debyg bod hyn yn adlewyrchu bod y data cyfredol wedi'i gymryd yn ddyfnach i'r cyfnod clo na gwerthusiadau blaenorol. Mae angen i wasanaethau’r sector cyhoeddus baratoi ar gyfer y cynnydd hwn o broblemau iechyd meddwl gyda phwyslais ar oedolion iau, menywod, ac mewn ardaloedd lle mae mwy o amddifadedd.”
Sefydlwyd y prosiect i olrhain effaith y pandemig ar lesiant pobl, gan archwilio mynychder lefelau sylweddol o ddiflastod seicolegol ac edrych ar y ffactorau a allai liniaru neu waethygu'r diflastod hwnnw.
Recriwtiwyd y 12,989 o gyfranogwyr trwy'r cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddusrwydd a gyda chefnogaeth gan sefydliadau mawr ledled Cymru a rannodd fanylion yr arolwg dwyieithog yn helaeth gyda'r staff. Cafodd gefnogaeth pob un o saith bwrdd iechyd Cymru, y pedwar heddlu yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r Gwasanaeth Tân ac Achub ynghyd â nifer o gyflogwyr mawr a sefydliadau'r trydydd sector.
Mae grŵp ymchwil Llesiant Cymru hefyd yn cynnwys Dr Chris O'Connor, Cyfarwyddwr Adrannol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda chymorth y gweithiwr marchnata proffesiynol Stuart Williams a myfyrwyr PhD Prifysgol Abertawe James Knowles, Jennifer Pink a Nicola Simkiss.
Mae eu papur, dylanwad y pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol a diflastod seicolegol: effaith ar un wlad, newydd gael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Frontiers in Psychiatry.
Mae'r grŵp hefyd wedi cyflwyno ei ymchwil i Lywodraeth Cymru gyda'r canfyddiadau wedi'u gosod i helpu'r GIG yng Nghymru nid yn unig i ddeall y materion sy'n effeithio ar gymunedau ond hefyd sut y gall lunio gwasanaethau cymorth ar gyfer y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae'r ymchwilwyr yn paratoi i ailagor yr arolwg i gasglu mwy o ddata gan gyfranogwyr sy'n archwilio sut mae pandemig parhaus Covid-19 yn dal i effeithio ar fywyd beunyddiol, pa ffactorau penodol sy'n gweithredu fel straen a dadansoddiad pellach o sut mae oedran yn effeithio ar ymatebion a phrofiadau.
Dywedodd yr Athro Gray: “Bydd y canfyddiadau hyn yn ein helpu i frwydro’n erbyn coronafirws a phopeth sy'n dilyn ohono. Mae gwybodaeth yn bŵer a gwyddoniaeth yw ein dull ar gyfer cyrchu'r wybodaeth hon.
“Mae angen gwyddoniaeth arnom i frwydro yn erbyn canlyniadau corfforol afiechyd a lleihau cyfraddau heintiau ond mae ei angen arnom hefyd i’n helpu i ddeall a pharatoi i ddelio â chanlyniadau Covid-19 ar iechyd meddwl a llesiant pobl Cymru.”
I ddarganfod mwy ac i gymryd rhan mewn astudiaethau yn y dyfodol.