Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Cynnydd ymchwil canser y Brifysgol yn arwain at hwb ariannol gan bartneriaid
Mae gwaith arloesol prosiect Prifysgol Abertawe i wella ffyrdd o bennu diagnosis o ganser yr ofari a thrin y clefyd wedi helpu i sicrhau buddsoddiad gwerth mwy na £3m gan bartneriaid diwydiannol.
Mae'r Clwstwr Therapiwteg Cyffuriau Gwrthgyrff Cyfunedig ac Epigenomaidd (CEAT) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe hefyd wedi denu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru – gan ddod â chyfanswm gwerth y prosiect i fwy na £5m.
Mae epigeneteg yn ymwneud ag astudio newidiadau cemegol i DNA a phroteinau cysylltiedig a all arwain at roi genynnau ar waith neu eu hatal rhag gweithio. Mewn rhai achosion, gall pethau fynd o chwith ac arwain at glefydau megis canser a chyflyrau niwroddirywiol megis clefyd Parkinson.
Mae CEAT, a lansiwyd yn gynnar yn 2019, yn galluogi'r Brifysgol i weithio'n agos gyda'i phartneriaid i ddatblygu cyffuriau sy'n rheoli arwyddion epigenynnol ac y gellir eu targedu at gelloedd canser yr ofari lle cafwyd newidiadau epigenynnol.
Yn ôl Cancer Research UK, mae 7,400 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofari yn y DU bob blwyddyn, sef y chweched canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod.
Mae aelodau'r tîm yn datblygu technegau i nodi cleifion a fydd yn cael eu trin â chyffuriau epigenynnol ac anepigenynnol penodol. Erbyn hyn, casglwyd cronfa gynhwysfawr o samplau cleifion, gan gynnwys llinellau celloedd a samplau sy'n gallu gwrthsefyll cemotherapi a rhai nad ydynt yn gallu gwrthsefyll cemotherapi, a lluniwyd amrywiaeth o dechnegau newydd i bennu gwahaniaethau rhwng cleifion ar y lefel epigenynnol.
Meddai Dr Lewis Francis, un o Brif Ymchwilwyr CEAT: “Rydym yn falch o ddweud bod y prosiect wedi gwneud cynnydd mawr. Rydym hefyd wedi nodi sawl ymgeisydd addawol i gael cyffuriau sy'n ymgymryd â rhagor o brofion.”
Ychwanegodd yr Athro Deya Gonzalez, sydd hefyd yn un o Brif Ymchwilwyr y prosiect: “Mae CEAT hefyd yn mynd ati i ddatblygu cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig, sef dosbarth newydd pwerus o driniaethau ym maes oncoleg feddygol, lle mae gwrthgyrff sy'n targedu canserau penodol yn cyfuno â chyfryngau cytotocsig.”
Meddai'r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae'r ffaith bod partneriaid CEAT yn cynyddu eu buddsoddiad yn y prosiect yn dangos bod y tîm yn gwneud cynnydd a bod y canlyniadau wedi bod yn addawol hyd yn hyn.
“Mae hyn yn dangos pa mor dda y gallwn weithio gyda diwydiant, yn ogystal â thynnu sylw at y triniaethau a allai achub bywydau sy'n cael eu datblygu.”
Ceir rhagor o wybodaeth am brosiect CEAT drwy e-bostio Zoe Coombes