Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae adolygiad gan academyddion o Brifysgol Abertawe wedi gweld bod pobl hŷn, dlotach sy'n cadw pellter cymdeithasol rhag eu meddygon neu eu fferyllwyr yn dioddef mwy o adweithiau niweidiol i gyffuriau na'r boblogaeth gyffredinol.
Felly, mae angen monitro'r cleifion hyn yn systematig er mwyn eu diogelu rhag dioddef adweithiau a allai arwain at eu tawelyddu'n ormodol, achosion o gwympo, neu gyflwr tebyg i glefyd Parkinson.
Er gwaethaf ymdrechion cyfoes i symud tuag at feddygaeth sy'n seiliedig ar y claf, mae'r papur sydd wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Geriatrics yn cydnabod bod meddygon yn tueddu i gadw pellter rhyngddynt a'u cleifion. Mae'r pwyslais ar ragnodi triniaeth heb gael llawer o gyswllt â chleifion yn arbennig o wir mewn perthynas â thrin cleifion hŷn mewn cyfleusterau gofal hirdymor. Mae diffyg cyffredinol adolygiadau systematig rheolaidd o'r cleifion yn golygu bod cyfleoedd yn cael eu colli i nodi camgymeriadau o ran meddyginiaeth ac i ddatgelu adweithiau niweidiol i gyffuriau.
Meddai'r Athro David Hughes, arweinydd y papur: “Mae'n anffodus iawn bod y cyfuniad o gadw pellter cymdeithasol rhwng meddygon a chleifion hŷn sy'n aml yn dlotach, a thriniaeth sy'n seiliedig ar ragnodi cyffuriau heb gyswllt rheolaidd â chleifion nac archwiliadau, yn cynyddu'r peryglon y ceir camgymeriadau o ran meddyginiaeth ac adweithiau niweidiol i gyffuriau. Mae'n destun pryder mawr i mi hefyd fod y sefyllfa hon yn fwy cyffredin o lawer yn ystod y pandemig, gan fod cleifion mewn cartrefi gofal yn fwy tebygol o fod yn destun cyfyngiadau symud, yn aml heb gyswllt uniongyrchol â'u meddygon.”
Mae'r astudiaeth yn argymell y dylid defnyddio'r Proffil Adweithiau Niweidiol i Gyffuriau (ADRe) fel ateb. Mae ADRe yn rhestr wirio systematig a ddefnyddir gan ofalwyr er mwyn datgelu adweithiau niweidiol i gyffuriau'n haws ac mae'n rhoi gwybodaeth i staff a nyrsys i gysylltu arwyddion a symptomau ar y rhestr wirio â meddyginiaethau presgripsiwn. Mae'r dull amlddisgyblaethol hwn yn galluogi staff a nyrsys sy'n darparu gofal cartref i gysylltu â rhagnodwyr megis meddygon a fferyllwyr, er mwyn cyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth sydd wedi'u teilwra i'r claf unigol fel y gallant ymateb yn gyflym i broblemau sy'n codi ac addasu presgripsiynau.
Meddai un o gyd-awduron y papur, yr Athro Sue Jordan: “Mae'r proffil yn nodi ac yn dogfennu arwyddion a symptomau adweithiau niweidiol i gyffuriau gan gleifion. Drwy fonitro'r cleifion yn well, rhoddir cyfle i weithwyr proffesiynol ymateb yn chwim. Rydym yn sylweddoli y bydd angen newid y gyfundrefn reoliadol ar lefel arolygol er mwyn rhoi system ar waith i fonitro adweithiau niweidiol i gyffuriau. Serch hynny, bydd y fath system yn arwain at gydweithredu gwell rhwng gweithwyr proffesiynol. Byddai darparu system strwythuredig o fonitro cleifion i ofalwyr, nyrsys a fferyllwyr yn gwneud gwybodaeth feddygol berthnasol yn fwy democrataidd, yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran a'r agendor iechyd economaidd-gymdeithasol.”
Mwy o wybodaeth am ein gwaith ymchwil ar gyfiawnder a chydraddoldeb