Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cyllid gwerth £125,000 gan Health Data Research UK (HDR UK) i astudio effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19 ar glefydau cardiofasgwlaidd (CVD).
Bydd y cyllid gwerth £125,196 yn galluogi tîm Prifysgol Abertawe o athrawon iechyd cyhoeddus, ymchwilwyr, gwyddonwyr data, athrawon cardioleg a biofeddygaeth yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau, ynghyd â chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i weithio mewn partneriaeth â chonsortiwm ymchwil ledled y DU i archwilio effaith clefydau cardiofasgwlaidd ar Covid-19 ac effaith Covid-19 ar glefydau cardiofasgwlaidd.
Mae'r ymchwil yn rhan o'r prosiect blaenllaw CVD-COVID-UK, a arweinir gan Ganolfan Gwyddor Data y British Heart Foundation (BHF), yn HDR UK. Nod y prosiect yw deall y berthynas rhwng Covid-19 a chlefydau cardiofasgwlaidd megis trawiadau ar y galon a strociau a'r effaith ar boblogaeth y DU.
Bydd tîm amlddisgyblaethol Abertawe o ddadansoddwyr data, ystadegwyr a modelwyr mathemategol yn gweithio gyda'r consortiwm i archwilio data am boblogaeth Cymru a gedwir ym manc data SAIL, system o'r radd flaenaf ar gyfer diogelu preifatrwydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r isadeiledd gwaith ymchwil cenedlaethol, sydd wedi cefnogi cannoedd o astudiaethau poblogaethau a chlinigol ers 11 o flynyddoedd.
Bydd Prifysgol Abertawe yn rhoi cymorth allweddol i'r prosiect hwn sy'n gweithio ledled y DU, ynghyd â mynediad at fanc data SAIL, a help a chydweithrediad wrth ddadansoddi'r data, er mwyn gwerthuso effeithiau niweidiol uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19.
Bydd y gwaith gwerthuso hwn yn darparu dadansoddiadau manwl a chraff ar gyfer y cymunedau polisi, gweithredol ac ymchwil cynyddol, sy'n cynnwys Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ar Covid-19, y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE), Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), llywodraeth leol, sefydliadau trydydd sector a'r Grŵp Gwyddonol ar Ffliw Pandemig – Modelu (SPI-M).
Meddai arweinydd y prosiect, Ashley Akbari, uwch-reolwr ymchwil a gwyddonydd data yn uned Gwyddor Data Poblogaethau Ysgol Feddygaeth y Brifysgol: “Mae'r cyllid hwn yn garreg filltir yn y cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Canolfan Gwyddor Data'r BHF, CVD-COVID-UK ac HDR UK – sy'n cydweithio i hwyluso ymchwil i effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19 ar bobl sy'n dioddef o glefydau cardiofasgwlaidd. Rydym yn gobeithio y bydd y grant hwn yn ein helpu i barhau â'r diwylliant presennol o ymdrin â gwyddoniaeth fel tîm, sydd wedi sicrhau gwybodaeth a chanlyniadau hollbwysig ynghylch Covid-19 mewn cydweithrediad â phartneriaid ledled y DU.”
Ychwanegodd yr Athro Ronan Lyons, arbenigwr iechyd cyhoeddus yn uned Gwyddor Data Poblogaethau Prifysgol Abertawe: “Mae'r buddsoddiad gan HDR UK drwy'r BHF yn ymrwymiad sylweddol a bydd yn galluogi ein tîm yn Abertawe i wneud y gwaith hollbwysig hwn a fydd yn ategu ymchwil amrywiol yn y dyfodol. Gall cysylltu a dadansoddi'r data gynyddu ein dealltwriaeth o glefydau cardiofasgwlaidd a Covid-19 a helpu i gyflymu triniaethau a lleihau'r effaith ar y boblogaeth – a fydd o fudd i bobl yn y DU ac ym mhedwar ban byd.”
Meddai'r Athro Cathie Sudlow, Cyfarwyddwr Canolfan Gwyddor Data'r BHF, yn HDR UK: “Mae Canolfan Gwyddor Data'r BHF yn falch o weithio ar y fenter bwysig hon gydag arbenigwyr ar gysylltu a dadansoddi data ar raddfa fawr ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y bartneriaeth yn gwneud cyfraniad hollbwysig at ein gweledigaeth o wella iechyd cardiofasgwlaidd y cyhoedd drwy ymchwilio i ddata am iechyd yr holl boblogaeth yn ystod pandemig Covid-19 ac yn y dyfodol.”