Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Ar y cyd â sefydliadau rhyngwladol a rhai yn y DU, mae Prifysgol Abertawe wedi ennill y tlws fel Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn yng Ngwobrau Times Higher Education.
Y gwobrau blynyddol, a gynhaliwyd am yr 16eg tro, yw'r dathliad mwyaf yng nghalendr addysg uwch y DU, gan ddenu cannoedd o gynigion gan unigolion, timau a sefydliadau ledled y DU.
Daeth SUNRISE – Rhwydwaith Strategol Prifysgolion i Weddnewid Ynni Solar India – â thimau ymchwil solar blaenllaw o'r DU a gwledydd deheuol y byd ynghyd i ddangos technolegau solar mwy fforddiadwy mewn pentrefi yn India.
Yn y lle cyntaf, gwnaeth y rhwydwaith, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ganolbwyntio ar beirianneg a gwyddorau ffisegol, cyn ehangu i gynnwys academyddion gwyddorau cymdeithasol o'r DU ac India er mwyn cyfathrebu'n fwy effeithiol â chymunedau lleol. Aeth y prosiect mor bell â gwahodd cwmni theatr i gynnal gweithdy i hyfforddi gwyddonwyr mewn dulliau cyfathrebu â chymunedau a oedd yn seiliedig ar y celfyddydau.
Mae nifer y sefydliadau sy'n cymryd rhan wedi cynyddu hefyd. Roedd y cydweithrediad cychwynnol rhwng pum prifysgol yn y DU, pum prifysgol yn India a sawl busnes, ond mae ef bellach yn cynnwys prifysgolion ym Mecsico, yn Kazakstan ac yn Ne Affrica.
O ganlyniad i'r fenter, gwnaeth Sefydliad Gwyddoniaeth India, un o'r partneriaid allweddol, ddatblygu a gosod system storio ynni wedi'i phweru gan yr haul mewn ysgol bentref. Bydd y system yn darparu ynni fforddiadwy, dibynadwy a chynaliadwy i ystafelloedd dosbarth a labordai cyfrifiaduron.
Mae rhwydwaith SUNRISE hefyd wedi ehangu cyrraedd byd-eang gwaith ymchwil cyfranogwyr, yn ogystal â galluogi ysgolheigion a staff i fagu sgiliau newydd drwy hyfforddiant a gweithdai.
Meddai Dr Adrian Walters, Cyfarwyddwr Rhaglen SUNRISE:
“Gwobrau Times Higher Education oedd y tro cyntaf i ni gymryd rhan mewn gwobrau fel prosiect, felly mae cael cydnabyddiaeth fel Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn yn destun boddhad arbennig.
“Rydym wedi datblygu'n aruthrol o fewn dwy flynedd yn unig, gan feithrin rhwydwaith ymroddedig a chydlynus ledled y byd. Bydd cryfder y cydweithrediadau hyn yn ein paratoi i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau wrth i ni lansio cam nesaf ein prosiect i gyflwyno ynni solar i bawb.”