Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae tîm Arian@BywydCampws Prifysgol Abertawe wedi derbyn Gwobr Addewid Stand Alone 2020 am helpu myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio yn ystod argyfwng Covid-19.
Trefnodd aelodau o staff weithgareddau codi arian a ddarparodd gefnogaeth bwrpasol a phenodol a chymorth ariannol i fyfyrwyr a oedd yn cael amser caled yn ystod y pandemig. Rhoddodd y Pecyn Cymorth i Raddedigion gyngor ar gyllid a chyflogadwyedd i fyfyrwyr a oedd wedi ymddieithrio a myfyrwyr a oedd yn gadael gofal wrth iddynt raddio, gan helpu i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ar adeg ansicr iawn, yn ogystal â chynnig ymdeimlad o sicrwydd ariannol iddynt drwy ein bwrsarïau.
Cyhoeddwyd y gwobrau yn ystod Wythnos Cefnogi Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio, sy'n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio yn genedlaethol. Mae data newydd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr yr wythnos hon yn tynnu sylw at ddiffyg cydraddoldeb myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio ar bob lefel o addysg uwch, gan gynnwys mynediad, eu cadw, a chyrhaeddiad. Mae myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd yn llai tebygol o gael gradd dosbarth cyntaf neu 2:1 ac maent yn fwy tebygol o adael y brifysgol yn ystod blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau. Mae hyn ar ben y pwysau diweddar ar bob myfyriwr o ganlyniad i Covid-19.
Sefydlwyd Addewid Stand Alone er mwyn sicrhau na chaiff myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd, sy'n astudio heb gefnogaeth na chymeradwyaeth rhwydwaith teulu, eu rhwystro rhag llwyddo mewn addysg uwch.
Meddai Alison Maguire, rheolwr Arian@BywydCampws: “Rydym yn hynod fodlon a balch bod ein gwaith i gefnogi myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio wedi cael y gydnabyddiaeth hon. Mae'n destun boddhad arbennig ein bod wedi cael ein cydnabod gan sefydliad sydd wedi dangos ei ymrwymiad a'i werthoedd yn glir drwy ei waith mewn cynifer o feysydd gwahanol.”
Mae tîm Arian@BywydCampws yn ymrwymedig i barhau i helpu pob myfyriwr sydd wedi ymddieithrio ym Mhrifysgol Abertawe i lwyddo drwy ein pecyn cymorth pwrpasol.