Tynnir sylw at ymchwil gwyddonydd o Brifysgol Abertawe i nodweddion geometregol damcaniaethau ffisegol mewn papur newydd.
Meddai'r ffisegydd Dr Farid Shahandeh: “Dychmygwch ddamcaniaeth ffisegol lle ceir esboniadau gwahanol am daflwybrau afalau Gala a Pink Lady wrth iddynt gwympo o goeden. Rydym yn gwybod nad yw amrywogaeth yr afal yn berthnasol i'r ffordd y mae'n cwympo. Mae damcaniaeth o'r fath yn rhy gymhleth.
“Mae unrhyw baramedr ymddangosiadol ddiangen a disynnwyr o'r fath yn ychwanegu cyd-destun at ddisgrifiad damcaniaeth o ffenomen ffisegol.
“Yn ffodus, nid yw damcaniaethau clasurol yn gyd-destunol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod os byddwn yn ceisio dehongli mecaneg cwantwm mewn modd clasurol, bydd cyd-destun yn effeithio arni, a hynny’n groes i synnwyr cyffredin.”
Yn ei astudiaeth Contextuality of General Probabilistic Theories, mae Dr Shahandeh yn archwilio pa elfen strwythurol o ddamcaniaeth megis mecaneg cwantwm sy'n rhoi cyfle i gyd-destun effeithio arni.
Mae newydd gael ei chyhoeddi yn PRX Quantum, cyfnodolyn American Physical Society sy'n uchel ei fri.
Meddai: “Yn y gwaith hwn, rydym yn cadarnhau'r nodweddion geometregol sy'n penderfynu a fydd cyd-destun yn effeithio ar ddamcaniaeth ffisegol ai peidio.
“Wrth wneud hynny, rydym yn ystyried fframwaith damcaniaethau tebygolrwydd cyffredinol, adnodd cyfun sy'n ddefnyddiol at ddibenion llunio damcaniaethau ffisegol generig.”
Ychwanegodd: “Gellir ehangu'r technegau a'r canlyniadau sy'n deillio o'r gwaith hwn a'u defnyddio ar gyfer tasgau prosesu gwybodaeth cwantwm sy'n chwilio am fanteision anghlasurol.”
Mae Dr Shahandeh wedi derbyn cymrodoriaeth ymchwil y Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851, dyfarniad blynyddol sy'n ceisio galluogi gwyddonwyr neu beirianwyr hynod addawol ar ddechrau eu gyrfa i gynnal eu prosiect ymchwil eu hunain.
Mae ei waith ymchwil yn y Coleg Gwyddoniaeth yn archwilio'r broses o nodweddu'r adnoddau sylfaenol angenrheidiol ar gyfer algorithmau cyfrifiannu cwantwm.