Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi pum llysgennad newydd ar gyfer 2021 o Brifysgol Abertawe i rannu Sŵn y Stiwdants ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Mae cyfanswm o 26 o lysgenhadon eleni mewn saith prifysgol ledled Cymru. Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision a ddaw o hynny.
Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw ffyrdd ar-lein, gan gynnwys rhoi cyflwyniadau, creu a chyfrannu at gynnwys gwefannau cymdeithasol y Coleg, ysgrifennu blogiau a chreu podlediadau Sŵn y Stiwdants.
Llysgenhadon Prifysgol Abertawe yw:
- Elen Wyn Jones (Cymraeg, Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau)
- Emily Louise Evans (Cymraeg)
- Alaw Grug Harries (y Gyfraith a Throseddeg)
- Lois Medi Williams (Nyrsio Oedolion)
- Stuart Michael John Denman (Nyrsio Oedolion)
Meddai Rheolwr Marchnata’r Coleg Cymraeg, Elin Williams: “Mae cyfraniad ein llysgenhadon i ledaenu’r neges am fywyd myfyrwyr Cymraeg yn ein prifysgolion a manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn hynod bwysig. Yn sgil y pandemig Covid-19, mae hyrwyddo ar wefannau cymdeithasol a thrwy bodlediadau wedi dod yn fwyfwy pwysig. Edrychwn ymlaen i gydweithio gyda chriw brwdfrydig o fyfyrwyr o brifysgolion Cymru unwaith eto eleni.”
Gellir gwrando ar bodlediadau Sŵn y Stiwdants ar Spotify, lle mae myfyrwyr Cymraeg yn rhannu eu profiadau o fywyd prifysgol yng nghanol pandemig a chyrsiau, neu’n cynnal sgyrsiau ysgafn ac yn rhoi’r byd yn ei le! Yn ogystal, mae modd dilyn eu hanturiaethau a gweld lluniau’r unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg ac ar dudalennau Instagram a Twitter ‘Dy Ddyfodol Di’ a thudalennau Facebook a YouTube y ‘Coleg Cymraeg’.