Dyfarnwyd €1.5m i arbenigwr yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe i archwilio sut mae canfyddiadau'r cyhoedd ynghylch ffugiadau dwfn – delweddau, fideos neu sain sydd wedi cael eu trin â deallusrwydd artiffisial – yn effeithio ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o dorri hawliau dynol.
Dyfarnwyd Grant Cychwynnol uchel ei fri'r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC) i Yvonne McDermott Rees, Athro'r Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Roedd y grant ymysg y dyfarniadau diweddaraf sy'n rhan o Horizon Ewrop, rhaglen ymchwil ac arloesi'r Undeb Ewropeaidd (UE). Cafwyd dros 4,000 o geisiadau o bob rhan o Ewrop a gwledydd cysylltiedig a bu llai nag un o bob deg yn llwyddiannus.
Mae tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr – megis fideos y mae tystion yn eu recordio ar eu ffonau symudol – yn gwneud cyfraniad pwysig at dreialon cyfreithiol ledled y byd. Mae tystiolaeth o'r fath wedi trawsnewid ein ffyrdd o wybod am achosion lluosog o dorri hawliau dynol ac o ddwyn troseddwyr i gyfrif.
Eto, ar yr un pryd, mae'r cyhoedd yn gweld yn fwyfwy enghreifftiau o ffugiadau dwfn – delweddau, fideos neu sain hynod realistig sy'n cael eu creu drwy ddefnyddio technoleg dysgu dwfn – a bydd y rhain yn debygol o fod yn anos eu canfod wrth i'r dechnoleg ddatblygu.
Drwy fethodoleg flaengar sy'n cyfuno dadansoddiad cyfreithiol o dreialon ag arbrofion ar-lein lluosog a threialon rheithgor ffug, bydd prosiect yr Athro McDermott Rees, TRUE (TRust in User-generated Evidence), yn datblygu'r adroddiad systematig cyntaf o hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, yng nghyd-destun penodol ei defnydd mewn prosesau atebolrwydd ynghylch hawliau dynol.
Bydd TRUE yn gweithredu o 2022 i 2027, gan ei alluogi i olrhain effaith datblygiadau technolegol dros amser.
Meddai'r Athro Yvonne McDermott Rees o Brifysgol Abertawe:
“Mae ysgolheictod hyd yn hyn wedi mynegi pryder y bydd y cynnydd yn nifer y ffugiadau dwfn yn arwain at ddiffyg hyder torfol mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, ac y bydd hwn, yn ei dro, yn ei gwneud yn llai defnyddiol mewn achosion cyfreithiol. Efallai fod hyn yn wir, ond ni phrofwyd y rhagdybiaeth honno gan yr un astudiaeth hyd yn hyn.
Rwyf yn hynod falch bod y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd wedi dewis cefnogi TRUE yn hael wrth fynd i'r afael â bwlch mawr o ran tystiolaeth sy'n fater brys, ac rwy'n edrych ymlaen at ddechrau'r gwaith ymchwil pwysig hwn ar y cyd â thîm ymchwil ymroddedig.”
Meddai Mariya Gabriel, y Comisiynydd Ewropeaidd dros Arloesi, Ymchwil, Diwylliant, Addysg ac Ieuenctid:
“Gyda'r rownd gyntaf hon o grantiau hirddisgwyliedig, rwy'n falch o weld bod y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd yn dal i arwain y ffordd o ran gwyddoniaeth ragorol a ysgogir gan chwilfrydedd dan raglen Horizon Ewrop. Rwy'n edrych ymlaen at weld pa ddarganfyddiadau a chyfleoedd newydd y bydd ysgolheigion newydd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd yn eu cyflwyno, a sut byddant yn ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn eu chwilfrydedd a gwneud darganfyddiadau er ein lles ni i gyd.”