Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod Niamh Lamond wedi cael ei phenodi'n Gofrestrydd ac yn Brif Swyddog Gweithredu, ar ôl proses recriwtio allanol gystadleuol. Mae Niamh wedi bod yn llenwi'r rôl ar sail interim ers mis Gorffennaf 2021 a bydd hi bellach yn parhau ynddi'n barhaol.
Mae gan Niamh brofiad helaeth yn y sector addysg uwch, ar ôl bod yn Brif Swyddog Gweithredu ym Mhrifysgol Ulster yn ei swydd ddiweddaraf cyn ymuno ag Abertawe. Cyn hynny, hi oedd Prif Swyddog Gweithredu sefydlol a Chyfarwyddwr Bwrdd Falmouth Exeter Plus, sef menter ar y cyd rhwng Prifysgol Falmouth a Phrifysgol Caerwysg, gan gyflwyno amrywiaeth eang o wasanaethau proffesiynol i'r ddwy brifysgol.
Mae Niamh yn un o Gymrodorion Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli a bu hefyd yn aelod o bwyllgor cynghori strategol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr ar gyfer arwain, llywodraethu a rheoli. Tan fis Rhagfyr 2020, bu'n cynrychioli Gogledd Iwerddon ar weithgor cenedlaethol Cymdeithas Penaethiaid Gweinyddu Prifysgolion (AHUA).
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Rwy'n hynod falch y bydd Niamh yn ymuno â Phrifysgol Abertawe'n barhaol. Ar ôl gweithio gyda Niamh dros y misoedd diwethaf, rwy'n gwybod ei bod hi'n llwyr ymrwymedig i'n gweledigaeth ac i hyrwyddo diwylliant prifysgol sydd wedi'i wreiddio yn anghenion ein staff, ein myfyrwyr a'n cymuned. Rwy'n llongyfarch Niamh am gael ei phenodi ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda hi wrth i ni fwrw ymlaen â chynlluniau uchelgeisiol ein Prifysgol.”
Meddai Niamh: “Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Gofrestrydd ac yn Brif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe ac rwy'n edrych ymlaen at wasanaethu'r brifysgol hyd eithaf fy ngallu ac at arwain gwasanaethau proffesiynol â phwyslais cadarn ar roi'r cymorth gorau posib i'n staff, ein myfyrwyr a'n cymuned.”