Ar ôl bwlch o ddwy flynedd o ganlyniad i bandemig Covid-19, mae'r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2022 rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cael ei gadarnhau.
Bydd Abertawe'n cynnal yr ŵyl chwaraeon sy'n para am wythnos eleni. Cynhelir y rhan fwyaf o'r cystadlaethau a'r gemau rygbi proffil uchel ddydd Mercher 27 Ebrill.
Dechreuodd Varsity Cymru gyda gêm rygbi rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd ym 1997, ond mae wedi tyfu bob blwyddyn ers hynny a dyma'r digwyddiad aml-gamp mwyaf i fyfyrwyr yn y DU bellach.
Drwy gydol yr ŵyl chwaraeon wythnos o hyd, bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn mwy na 30 o gampau gwahanol ar gyfer gwobr uchel ei bri Tarian Varsity Cymru. Mae'r campau'n cynnwys: ffrisbi eithafol; nofio; golff; cleddyfaeth; sboncen; paffio; pêl-fasged; a hoci.
Ar hyn o bryd, Prifysgol Caerdydd yw deiliad Tarian a Chwpan Varsity Cymru, o ganlyniad i'w buddugoliaethau yn 2019.
Meddai Georgia Smith, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Mae dychweliad Varsity Cymru'n destun cyffro mawr i mi, yn enwedig gan y bydd Abertawe'n ei gynnal! Ar ôl cwpl o flynyddoedd anodd i fyfyrwyr, rwy'n gwybod y bydd pawb ym Mhrifysgol Abertawe wrth eu boddau pan fydd Lôn Sgeti'n troi'n wyrdd unwaith eto.
“Bydd yn bleser i mi groesawu myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr yn ôl i weld y digwyddiad prifysgolion mwyaf yng Nghymru i ddathlu chwaraeon a chystadlu cyfeillgar.
“Rwy'n gofyn i holl fyfyrwyr Abertawe fod yn barod i ganu a bloeddio dros Abertawe a dangos i Gaerdydd gwerth y Fyddin Werdd a Gwyn!”
Meddai Megan Somerville, Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd Undeb Athletaidd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: “Rwy'n falch o gael cymryd rhan yn Varsity Cymru wrth iddo ddychwelyd ar ôl hir ymaros. Mae'r paratoadau eisoes wedi dechrau ar gyfer y digwyddiad gwych hwn sy'n galluogi ein clybiau i ddangos eu doniau ar y maes chwarae ac oddi arno.
“Mae'r digwyddiad anferth hwn yn un o uchafbwyntiau calendr y myfyrwyr ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu hen gefnogwyr a newydd-ddyfodiaid i gefnogi Tîm Caerdydd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cymryd rhan yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yn y DU ym mis Ebrill ac yn gwylio Caerdydd yn ennill y cwpan a'r darian eto.”
Cyhoeddir manylion tocynnau ac amserlen lawn y digwyddiad maes o law.